|
|
I'r arweinydd cerdd: Salm gan feibion Cora.
ARGLWYDD, ti wedi bod yn garedig wrth dy dir,ac wedi rhoi llwyddiant i Jacob eto.
2 Ti wedi symud euogrwydd dy bobl,
a maddau eu pechodau i gyd.
Saib
a throi cefn ar dy wylltineb.
4 Tro ni'n ôl, O Dduw, ein hachubwr!
Rho heibio dy ddicter tuag aton ni.
5 Wyt ti'n mynd i fod yn ddig gyda ni am byth?
Wyt ti'n mynd i aros yn wyllt am genedlaethau?
6 Plîs, wnei di'n hadfywio ni unwaith eto,
i dy bobl gael dathlu beth wnest ti!
ARGLWYDD, dangos dy gariad ffyddlon i ni.Plîs achub ni!
8 Dw i'n mynd i wrando beth sydd gan Dduw i'w ddweud:
Ydy wir! Mae'r
ARGLWYDD yn addo heddwchi'r rhai sy'n ei ddilyn yn ffyddlon —
ond rhaid iddyn nhw beidio troi'n ôl at eu ffolineb!
9 Mae e'n barod iawn i achub y rhai sy'n ei ddilyn e;
wedyn bydd ei ysblander i'w weld yn ein tir eto.
10 Bydd cariad a gwirionedd yn dod at ei gilydd;
bydd cyfiawnder a heddwch yn cusanu.
11 Bydd gwirionedd yn tarddu o'r tir,
a chyfiawnder yn edrych i lawr o'r nefoedd.
ARGLWYDD yn rhoi pethau da i ni;a bydd y tir yn rhoi ei gnydau.
13 Bydd cyfiawnder yn mynd o'i flaen
ac yn paratoi'r ffordd iddo.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity