|
|
Gweddi. Salm Dafydd.
ARGLWYDD, ac ateb fi!Dw i'n wan ac yn ddiamddiffyn.
2 Cadw fi'n saff. Dw i'n ffyddlon i ti!
Achub dy was. Ti ydy fy Nuw
a dw i'n dy drystio di.
ARGLWYDD!Dw i wedi bod yn gweiddi arnat ti'n ddi-baid.
Dw i'n gweddïo'n daer arnat ti
ARGLWYDD. ARGLWYDD, yn dda ac yn maddau.Rwyt ti mor anhygoel o hael at y rhai sy'n galw arnat ti!
ARGLWYDD!Edrych! Dw i'n erfyn am drugaredd!
7 Dw i mewn trafferthion ac yn galw arnat,
am mai ti sy'n gallu fy ateb i.
8 Does dim un o'r duwiau eraill yn debyg i ti,
ARGLWYDD!Does neb arall yn gallu gwneud y pethau rwyt ti'n eu gwneud.
9 Bydd yr holl genhedloedd rwyt ti wedi eu creu
yn dod ac yn plygu o dy flaen di, O
ARGLWYDD!Byddan nhw'n anrhydeddu dy enw di,
ac yn gwneud pethau anhygoel!
Ti ydy'r unig Dduw go iawn!
ARGLWYDD,i mi dy ddilyn di'n ffyddlon.
Gwna fi'n benderfynol o d'addoli di'n iawn.
12 Bydda i'n dy addoli o waelod calon, O
ARGLWYDD fy Nuw,ac yn anrhydeddu dy enw am byth.
13 Mae dy gariad tuag ata i mor fawr!
Ti wedi fy achub i o ddyfnder Annwn. Ref
14 O Dduw, mae yna bobl haerllug wedi troi yn fy erbyn i.
Mae yna griw creulon am fy lladd i,
Does dim bwys ganddyn nhw amdanat ti.
ARGLWYDD, mor drugarog a charedig,rwyt mor amyneddgar!
Mae dy haelioni a dy ffyddlondeb di yn anhygoel!Croes
16 Tro ata i, a dangos drugaredd!
Rho dy nerth i dy was,
Achub blentyn dy gaethferch!
17 Dangos i mi ryw arwydd o dy ddaioni,
er mwyn i'r rhai sy'n fy nghasáu i weld hynny
a chael eu cywilyddio am dy fod ti,
ARGLWYDD,wedi fy helpu i a'm cysuro.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity