|
|
Salm gan feibion Cora. Cân.
1 Mae ei sylfeini ar y mynyddoedd sanctaidd!
ARGLWYDD yn caru dinas Seionfwy nag unrhyw fan arall yn nhir Jacob.
3 Mae pethau hyfryd yn cael eu dweud amdanat ti,
O ddinas Duw.
Saib
4 Wrth sôn am yr Aifft a Babilon wrth y rhai sy'n fy nabod i
— Philistia, Tyrus, a dwyrain Affrica Ref hefyd —
dywedir, “Cafodd hwn a hwn ei eni yno.”
5 A dyma fydd yn cael ei ddweud am Seion:
“Cafodd pob un o'r rhain eu geni yno!
Mae'r Duw Goruchaf ei hun yn ei gwneud hi'n ddiogel!”
ARGLWYDD yn cofrestru'r cenhedloedd:“Cafodd hwn a hwn ei eni yno.”
Saib
7 Bydd cantorion a dawnswyr yn dweud amdani:
“Mae ffynhonnell pob bendith ynot ti!”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity