|
|
I'r arweinydd cerdd: Salm i leisiau merched. Salm Dafydd.
ARGLWYDD, o waelod calon;a sôn am yr holl bethau rhyfeddol wnest ti.
2 Byddaf yn llawen, a gorfoleddaf ynot.
Canaf emyn o fawl i dy enw, y Goruchaf.
3 Pan mae fy ngelynion yn ceisio dianc,
maen nhw'n baglu ac yn cael eu dinistrio o dy flaen di,
4 am dy fod ti'n camu i mewn a gweithredu ar fy rhan i.
Ti'n eistedd ar yr orsedd ac yn dyfarnu'n gyfiawn.
5 Ti sy'n ceryddu'r cenhedloedd,
yn dinistrio'r rhai drwg,
ac yn cael gwared â nhw am byth bythoedd!
Mae eu trefi'n adfeilion,
a fydd neb yn cofio ble roedden nhw.
ARGLWYDD yn teyrnasu am byth!Mae ar ei orsedd, yn barod i farnu.
ac yn llywodraethu'r gwledydd yn gyfiawn.
ARGLWYDD yn hafan ddiogeli'r rhai sy'n cael eu gorthrymu —
yn hafan pan maen nhw mewn trafferthion.
10 Mae'r rhai sy'n dy nabod di yn dy drystio di.
Dwyt ti ddim yn troi cefn
ar y rhai sy'n dy geisio di, O
ARGLWYDD. ARGLWYDD sy'n teyrnasu yn Seion!Dwedwch wrth bawb beth mae wedi ei wneud!
12 Dydy e ddim yn diystyru cri y rhai sy'n dioddef;
mae'r un sy'n dial ar y llofruddion yn gofalu amdanyn nhw.
ARGLWYDD;edrych fel mae'r rhai sy'n fy nghasáu yn gwneud i mi ddioddef.
Dim ond ti all fy nghadw rhag mynd trwy giatiau marwolaeth.
o fewn i giatiau Seion hardd.
Bydda i'n dathlu am dy fod wedi fy achub i!
15 Mae'r cenhedloedd wedi llithro i'r twll wnaethon nhw ei gloddio;
a'u traed wedi mynd yn sownd yn y rhwyd wnaethon nhw ei chuddio.
ARGLWYDD wedi dangos sut un ydy e!Mae e'n gwneud beth sy'n iawn.
Mae'r rhai drwg wedi eu dal gan eu dyfais eu hunain.
(Yn ddwys:)
Saib
17 Bydd y rhai drwg yn mynd i fyd y meirw.
Dyna dynged y cenhedloedd sy'n diystyru Duw!
18 Ond fydd y rhai mewn angen ddim yn cael eu hanghofio am byth;
fydd gobaith ddim yn diflannu i'r rhai sy'n cael eu cam-drin.
ARGLWYDD!Paid gadael i ddynion meidrol gael eu ffordd!
Boed i'r cenhedloedd gael eu barnu gen ti!
ARGLWYDD!gad iddyn nhw wybod mai dim ond dynol ydyn nhw!
Saib
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity