|
|
Salm. Cân ar gyfer y dydd saboth.
ARGLWYDD,a chanu mawl i dy enw di, y Duw Goruchaf.
2 Canu yn y bore am dy gariad,
a chyda'r nos am dy ffyddlondeb,
3 i gyfeiliant offeryn dectant a nabl
a thannau'r delyn.
4 Ti'n fy ngwneud i mor hapus, O
ARGLWYDD;a dw i'n canu'n uchel o achos y cwbl rwyt ti'n wneud.
ARGLWYDD!Mae dy feddyliau di mor ddwfn!
6 Dim ond twpsyn sydd ddim yn gweld hynny;
dim ond ffŵl fyddai ddim yn deall!
7 Mae pobl ddrwg yn llwyddo — ond maen nhw fel glaswellt —
Er bod y rhai sy'n gwneud drwg fel petaen nhw'n blodeuo,
byddan nhw'n cael eu dinistrio am byth!
8 Ond ti ydy'r Un sydd uwchlaw popeth,
a hynny am byth, O
ARGLWYDD. ARGLWYDD,bydd dy elynion di yn cael eu dinistrio!
Bydd pawb sy'n gwneud drygioni yn cael eu gwasgaru!
10 Ti wedi fy ngwneud i'n gryf fel ych gwyllt;
ti wedi fy eneinio i ag olew iraidd.
11 Bydda i'n cael gweld y gelynion sy'n fy ngwylio yn cael eu trechu;
a chlywed y rhai drwg sy'n ymosod arna i yn chwalu.
12 Ond bydd y rhai cyfiawn yn blodeuo fel palmwydd;
ac yn tyfu'n gryf fel coed cedrwydd yn Libanus.
13 Maen nhw wedi eu plannu yn nheml yr
ARGLWYDD,ac yn blodeuo yn yr iard sydd yno.
14 Byddan nhw'n dal i roi ffrwyth pan fyddan nhw'n hen;
byddan nhw'n dal yn ffres ac yn llawn sudd.
ARGLWYDD yn gyfiawn —mae e'n graig saff i mi,
a does dim anghyfiawnder yn agos ato.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity