|
|
Mae wedi ei arwisgo'n hardd.
Mae'r
ARGLWYDD wedi ei arwisgo,a'i gryfder fel gwregys am ei ganol.
Mae'r ddaear yn saff, a does dim modd ei symud!
2 Cest dy orseddu'n frenin amser maith yn ôl;
ti wedi bodoli bob amser!
3 Roedd y tonnau'n codi'n uchel, O
ARGLWYDD,roedd sŵn y tonnau fel taranau,
sŵn y tonnau trymion yn torri.
ARGLWYDD, sydd yn uwch na'r cwbl,yn gryfach na sŵn y dyfroedd mawr,
ac yn gryfach na thonnau mawr y môr.
5 Mae dy orchmynion di yn hollol sicr.
Sancteiddrwydd sy'n addurno dy dŷ,
O
ARGLWYDD, a hynny am byth!Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity