|
|
O Dduw sy'n dial pob cam, disgleiria!
2 Cod ar dy draed, Farnwr y ddaear,
a rhoi beth maen nhw'n haeddu i'r rhai balch!
3 Am faint mwy mae'r rhai drwg, O
ARGLWYDD —am faint mwy mae'r rhai drwg i gael dathlu?
4 Maen nhw'n chwydu eu geiriau balch
wrth frolio eu hunain.
5 Maen nhw'n sathru dy bobl dan draed, O
ARGLWYDD,ac yn cam-drin dy etifeddiaeth.
6 Mae'n nhw'n lladd y gweddwon a'r mewnfudwyr,
ac yn llofruddio'r plant amddifad.
ARGLWYDD ddim yn gweld,dydy Duw Jacob yn cymryd dim sylw.”
8 Chi bobl dwp, mae'n bryd i chi ddeall!
Chi ffyliaid, pryd ydych chi'n mynd i gallio?
9 Ydy'r un roddodd siâp i'r glust ddim yn clywed?
Ydy'r un wnaeth greu y llygad ddim yn gweld?
10 Ydy'r un sy'n disgyblu'r cenhedloedd ddim yn cosbi? —
Fe ydy'r un sy'n dysgu gwersi i'r ddynoliaeth!
ARGLWYDD yn gwybod fod cynlluniau dynolyn wastraff amser, fel tarth yn diflannu!
12 Mae'r un sy'n cael ei ddisgyblu gen ti wedi ei fendithio'n fawr,
ARGLWYDD;yr un rwyt ti'n dysgu dy gyfraith iddo.
13 Mae'n dawel ei feddwl pan mae pethau'n anodd.
Mae'n gwybod y bydd y rhai drwg yn syrthio i dwll.
ARGLWYDD ddim yn siomi ei bobl.Fydd e ddim yn troi cefn ar ei etifeddiaeth.
15 Cyfiawnder fydd yn cario'r dydd,
a'r rhai sy'n byw'n gywir yn ei ddilyn.
16 Oes rhywun am ochri gyda fi yn erbyn y rhai drwg?
Oes rhywun am sefyll hefo fi yn erbyn pobl ddrwg?
oni bai fod yr
ARGLWYDD wedi fy helpu!18 Pan oeddwn i'n dweud, “Dw i'n llithro! Mae ar ben arna i!”
roedd dy ffyddlondeb di, O
ARGLWYDD, yn fy nghynnal.19 Pan oeddwn i'n poeni am bob math o bethau,
roedd dy gefnogaeth di yn fy ngwneud i'n llawen.
20 Wyt ti'n gallu partneru gyda llywodraeth anghyfiawn
sy'n achosi dioddefaint trwy ei deddfau?
21 Maen nhw'n casglu at ei gilydd yn erbyn y cyfiawn;
ac yn condemnio pobl ddiniwed i farwolaeth.
ARGLWYDD yn gaer ddiogel i mi.mae fy Nuw yn graig lle dw i'n hollol saff.
23 Bydd e'n talu'n ôl iddyn nhw am eu drygioni!
Bydd e'n defnyddio eu drygioni eu hunain i'w dinistrio!
Bydd yr
ARGLWYDD ein Duw yn eu dinistrio nhw!Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity