|
|
1 Dewch, gadewch i ni ganu'n llawen i'r
ARGLWYDD,a gweiddi'n mawl i'r Graig sy'n ein hachub!
2 Gadewch i ni fynd ato yn llawn diolch;
gweiddi'n uchel a chanu mawl iddo!
ARGLWYDD ydy'r Duw mawr;y Brenin mawr sy'n uwch na'r ‘duwiau’ i gyd.
4 Mae mannau dyfna'r ddaear yn ei ddwylo,
a chopaon y mynyddoedd hefyd!
5 Fe sydd piau'r môr, am mai fe wnaeth ei greu;
a'r tir hefyd, gan mai ei ddwylo fe wnaeth ei siapio.
6 Dewch, gadewch i ni ei addoli ac ymgrymu iddo;
mynd ar ein gliniau o flaen yr
ARGLWYDD ein Crëwr.7 Fe ydy'n Duw ni, a ni ydy ei bobl e;
y defaid mae'n gofalu amdanyn nhw.
O na fyddech chi'n gwrando arno heddiw!
8 “Peidiwch bod yn ystyfnig fel yn Meriba,
neu ar y diwrnod hwnnw yn Massa, yn yr anialwch.Croes
9 Yno roedd eich hynafiaid wedi herio fy awdurdod,
a phrofi fy amynedd, er eu bod wedi gweld beth wnes i!
10 Am bedwar deg mlynedd ron i'n eu ffieiddio nhw:
‘Maen nhw'n bobl hollol anwadal,’ meddwn i;
‘dyn nhw ddim eisiau fy nilyn i.’
11 Felly digiais, a dweud ar lw,
‘Chân nhw byth fynd i'r lle sy'n saff i orffwys gyda mi!’”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity