|
|
(1 Cronicl 16:23-33)
ARGLWYDD.Y ddaear gyfan, canwch i'r
ARGLWYDD! ARGLWYDD! Canmolwch ei enw,a dweud bob dydd sut mae e'n achub.
3 Dwedwch wrth y cenhedloedd mor wych ydy e;
wrth yr holl bobloedd am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud.
ARGLWYDD yn Dduw mawr ac yn haeddu ei foli!Mae'n haeddu ei barchu fwy na'r ‘duwiau’ eraill i gyd.
5 Eilunod diwerth ydy duwiau'r holl bobloedd,
ond yr
ARGLWYDD wnaeth greu y nefoedd!6 Mae ei ysblander a'i urddas yn amlwg;
mae ei gryfder a'i harddwch yn ei deml.
7 Dewch bobl y cenhedloedd! Cyhoeddwch!
Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy'r
ARGLWYDD!8 Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da!
Dewch i'w deml i gyflwyno rhodd iddo!
ARGLWYDDsydd mor hardd yn ei gysegr!
Crynwch o'i flaen, bawb drwy'r byd!
10 Dwedwch ymysg y cenhedloedd,
“Yr
ARGLWYDD sy'n teyrnasu!”Felly mae'r ddaear yn saff, does dim modd ei symud.
Bydd e'n barnu'r byd yn deg.
11 Boed i'r nefoedd a'r ddaear ddathlu'n llawen!
Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi!
12 Boed i'r caeau a'u cnydau ddathlu!
Bydd holl goed y goedwig yn siffrwd yn llawen
ARGLWYDD, am ei fod yn dod —mae'n dod i roi trefn ar y ddaear!
Bydd yn barnu'r byd yn hollol deg,
a'r bobloedd i gyd ar sail beth sy'n wir.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity