|
|
Gall y ddaear ddathlu,
a'r ynysoedd i gyd lawenhau!
2 Mae cwmwl trwchus o'i gwmpas;
a'i orsedd wedi ei sylfaenu ar degwch a chyfiawnder.
3 Mae tân yn mynd allan o'i flaen,
ac yn llosgi ei elynion ym mhobman.
4 Mae ei fellt yn goleuo'r byd;
a'r ddaear yn gwingo wrth ei weld.
5 Mae'r mynyddoedd yn toddi fel cwyr o flaen yr
ARGLWYDD,o flaen Meistr y ddaear gyfan.
6 Mae'r nefoedd yn cyhoeddi ei fod yn gyfiawn,
a'r bobloedd i gyd yn gweld ei ysblander.
7 Mae'r rhai sy'n addoli eilun-dduwiau yn cywilyddio —
y rhai oedd mor falch o'u delwau diwerth.
Mae'r ‘duwiau’ i gyd yn plygu o'i flaen.
8 Roedd Seion yn hapus pan glywodd hyn,
ac roedd pentrefi Jwda'n dathlu
am dy fod ti'n barnu'n deg, O
ARGLWYDD. ARGLWYDD, yn Dduw dros yr holl fyd;rwyt ti'n llawer gwell na'r holl ‘dduwiau’ eraill i gyd.
ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n casáu drygioni.Mae e'n amddiffyn y rhai sy'n ffyddlon iddo,
ac yn eu hachub nhw o afael pobl ddrwg.
11 Mae golau'n disgleirio ar y rhai sy'n byw'n gywir,
a llawenydd ar y rhai sy'n onest.
12 Chi rai cyfiawn, byddwch yn llawen yn yr
ARGLWYDD,a'i foli wrth gofio mor sanctaidd ydy e!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity