|
|
Salm
ARGLWYDD,am ei fod wedi gwneud pethau anhygoel!
Mae ei fraich gref,
wedi ennill y fuddugoliaeth iddo.
ARGLWYDD wedi dangos ei allu i achub!Mae wedi dangos i'r cenhedloedd ei fod yn Dduw cyfiawn.
3 Mae wedi cofio ei gariad a'i ffyddlondeb i bobl Israel;
ac mae pawb drwy'r byd i gyd wedi gweld Duw yn achub.
4 Dewch, bawb drwy'r byd i gyd,
gwaeddwch yn uchel i'r
ARGLWYDD!Gweiddi'n llawen, a chanu mawl iddo!
ARGLWYDD;canwch gân hyfryd i gyfeiliant y delyn!
6 Seiniwch yr utgyrn a chwythu'r corn hwrdd Ref .
Dewch, bawb drwy'r byd i gyd,
gwaeddwch yn uchel i'r
ARGLWYDD, y Brenin!7 Boed i'r môr a phopeth sydd ynddo weiddi;
a'r byd hefyd, a phawb sy'n byw ynddo.
8 Boed i'r afonydd guro dwylo,
ac i'r mynyddoedd ganu'n llawen gyda'i gilydd
ARGLWYDD!Achos mae e'n dod i roi trefn ar y ddaear!
Bydd e'n barnu'r byd yn hollol deg,
a'r bobloedd yn gwbl gyfiawn.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity