|
|
“Mae Duw wedi achub, cymryd y grym, a dod i deyrnasu,
ac mae'r awdurdod gan ei Feseia.
Oherwydd mae cyhuddwr y brodyr a'r chwiorydd
(yr un oedd yn eu cyhuddo nhw o flaen Duw ddydd a nos),
wedi cael ei hyrddio i lawr.
11 Maen nhw wedi ennill y frwydr
am fod yr Oen wedi marw'n aberth,
ac am iddyn nhw dystio i'r neges.
Dim ceisio amddiffyn eu hunain wnaeth y rhain –
doedd ganddyn nhw ddim ofn marw.
Llawenhewch bawb sy'n byw yno!
Ond gwae chi'r ddaear a'r môr,
oherwydd mae'r diafol wedi dod i lawr atat,
ac wedi gwylltio'n gandryll,
am ei fod yn gwybod mai ychydig amser sydd ganddo ar ôl.”
13 Pan sylweddolodd y ddraig ei bod wedi cael ei hyrddio i'r ddaear dyma hi'n erlid ar ôl y wraig oedd wedi rhoi genedigaeth i'r bachgen. 14 Ond cafodd adenydd eryr mawr eu rhoi i'r wraig, iddi allu hedfan i'r lle oedd wedi'i baratoi iddi yn yr anialwch. Yno byddai hi'n saff allan o gyrraedd y ddraig am dair blynedd a hanner. 15 Yna dyma'r sarff yn chwydu dŵr fel afon i geisio dal y wraig a'u hysgubo i ffwrdd gyda'r llif. 16 Ond dyma'r ddaear yn helpu'r wraig drwy agor a llyncu yr afon oedd y ddraig wedi'i chwydu o'i cheg. 17 Roedd y ddraig yn wyllt gynddeiriog gyda'r wraig, ac aeth allan i ryfela yn erbyn gweddill ei phlant – yn erbyn y rhai sy'n ufudd i orchmynion Duw ac yn dal ati i dystio i Iesu.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity