|
|
“Mae popeth rwyt yn ei wneud
mor anhygoel a rhyfeddol
Arglwydd Dduw Hollalluog.
Mae beth rwyt yn ei wneud
yn gyfiawn a theg,
Frenin pob oes.
4 Pwy fyddai ddim yn dy barchu di,
a chanmol dy enw di, Arglwydd?
Oherwydd dim ond ti sy'n sanctaidd.
Bydd pobl y gwledydd i gyd yn dod
i addoli o dy flaen di,
oherwydd mae'n amlwg
fod beth wnaethost ti yn gyfiawn.”
5 Yna ces i weledigaeth arall. Roedd y deml, sef ‛pabell y dystiolaeth‛,Croes ar agor yn y nefoedd. 6 Allan ohoni daeth y saith angel gyda'r saith pla. Roedden nhw wedi'u gwisgo mewn lliain glân disglair, gyda sash aur am eu canol. 7 Wedyn dyma un o'r pedwar creadur byw yn rhoi powlen aur i bob un o'r saith angel. Roedd y powlenni yn llawn o ddigofaint y Duw sy'n byw am byth bythoedd. 8 Yna dyma fwg ysblander a nerth Duw yn llenwi'r deml. Doedd neb yn gallu mynd i mewn i'r deml nes i saith pla y saith angel ddigwydd.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity