|
|
“Rwyt ti'n gyfiawn wrth gosbi fel hyn –
yr Un sydd, ac oedd – yr Un Sanctaidd!
dy bobl di a'th broffwydi,
ac rwyt ti wedi rhoi gwaed iddyn nhw ei yfed.
Dyna maen nhw yn ei haeddu!”
7 A dyma fi'n clywed rhywun o'r allor yn ateb:“Ie wir, Arglwydd Dduw Hollalluog,
mae dy ddyfarniad di bob amser
yn deg ac yn gyfiawn.”
8 Dyma'r pedwerydd angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar yr haul, a dyma'r haul yn cael y gallu i losgi pobl gyda'i wres. 9 Ond y cwbl wnaeth y bobl gafodd eu llosgi'n y gwres tanbaid oedd melltithio enw Duw, yr Un oedd yn rheoli'r plâu. Roedden nhw'n gwrthod newid eu ffyrdd a rhoi'r clod iddo. 10 Yna dyma'r pumed angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar orsedd yr anghenfil, a dyma'i deyrnas yn cael ei bwrw i dywyllwch dudew.Croes Roedd pobl yn brathu eu tafodau mewn poen 11 ac yn melltithio Duw'r nefoedd o achos y poen a'r briwiau ar eu cyrff. Ond roedden nhw'n gwrthod newid eu ffyrdd a throi cefn ar beth roedden nhw'n ei wneud. 12 Yna dyma'r chweched angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e ar afon fawr Ewffrates. Sychodd yr afon fel bod brenhinoedd o'r dwyrain yn gallu ei chroesi. 13 Wedyn gwelais dri ysbryd drwg oedd yn edrych rywbeth tebyg i lyffantod. Daethon nhw allan o geg y ddraig, a cheg yr anghenfil a cheg y proffwyd ffug. 14 Ysbrydion cythreulig ydyn nhw, a'r gallu ganddyn nhw i wneud gwyrthiau rhyfeddol. Dyma nhw'n mynd allan at frenhinoedd y ddaear i'w casglu at ei gilydd i ymladd yn y frwydr olaf ar ddiwrnod mawr y Duw Hollalluog. 15 “Edrychwch! Dw i'n dod fel lleidr!” meddai Iesu. “Bydd y rhai sy'n cadw'n effro yn cael eu bendithio'n fawr! Bydd dillad ganddyn nhw, a fyddan nhw ddim yn cerdded o gwmpas yn noeth ac yn teimlo cywilydd pan fydd pobl yn edrych arnyn nhw.” 16 Felly dyma'r ysbrydion drwg yn casglu'r brenhinoedd at ei gilydd i'r lle sy'n cael ei alw yn Hebraeg yn Armagedon. Ref 17 Dyma'r seithfed angel yn tywallt beth oedd yn ei fowlen e i'r awyr, a dyma lais uchel o'r orsedd yn y deml yn dweud, “Dyna'r diwedd!” 18 Ac roedd mellt a sŵn taranau a daeargryn mawr. Fuodd yna erioed ddaeargryn mor ofnadwy yn holl hanes y byd – roedd yn aruthrol! 19 Dyma'r ddinas fawr yn hollti'n dair, a dyma ddinasoedd y cenhedloedd i gyd yn cael eu chwalu. Cofiodd Duw beth oedd Babilon fawr wedi'i wneud a rhoddodd iddi y gwpan oedd yn llawn o win ei ddigofaint ffyrnig. 20 Diflannodd pob ynys a doedd dim mynyddoedd i'w gweld yn unman. 21 Yna dyma genllysg anferthol yn disgyn ar bobl o'r awyr – yn pwyso tua 40 cilogram yr un! Roedd y bobl yn melltithio Duw o achos y pla o genllysg, am fod y pla mor ofnadwy.CroesHawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity