|
|
“Mae wedi syrthio! Mae Babilon fawr wedi syrthio!Croes
Mae wedi troi'n gartref i gythreuliaid
ac yn gyrchfan i'r holl ysbrydion drwg
ac i bob aderyn aflan,
ac i bob anifail aflan a ffiaidd.
3 Mae'r holl genhedloedd wedi yfed
gwin ei chwant anfoesol nwydwyllt.
Mae brenhinoedd y ddaear wedi cael rhyw gyda'r butain,
ac mae pobl fusnes y ddaear wedi ennill cyfoeth mawr
o'i moethusrwydd eithafol.”Croes
4 Wedyn clywais lais arall o'r nefoedd yn dweud:“Fy mhobl, dewch allan o'r ddinas,Croes
er mwyn i chi beidio pechu gyda hi.
Wedyn bydd y plâu fydd yn dod i'w chosbi hi
ddim yn eich cyffwrdd chi.
5 Mae ei phechodau hi yn bentwr anferth i'r nefoedd,
ac mae Duw wedi cofio ei holl droseddau hi.
6 Gwna iddi hi beth mae hi wedi'i wneud i eraill;
tala nôl iddi ddwywaith cymaint ag mae wedi'i wneud.
Rho iddi siâr ddwbl o'i ffisig ei hun! Croes
7 Yn lle'r ysblander a'r moethusrwydd gymerodd iddi'i hun,
rho'r un mesur o boen a gofid iddi hi.
Mae hi mor siŵr ohoni hi ei hun!
‘Brenhines ydw i, yn eistedd ar orsedd;
fydda i ddim yn weddw,
a fydd dim rhaid i mi alaru byth!’ meddai.
8 Dyna'n union pam bydd y plâu yn ei tharo'n sydyn:
marwolaeth, galar a newyn.
Bydd yn cael ei dinistrio gan dân,
oherwydd mae'r Arglwydd Dduw sy'n ei barnu hi yn Dduw grymus!
9 “Bydd brenhinoedd y ddaear gafodd ryw gyda'r butain a rhannu ei moethusrwydd, yn crio'n chwerw wrth weld y mwg yn codi pan gaiff ei llosgi. Croes 10 Byddan nhw'n sefyll yn bell i ffwrdd, mewn dychryn wrth weld beth mae'n ei ddioddef, ac yn gweiddi:‘Och! Och! Ti ddinas fawr!
Babilon, y ddinas oedd â'r fath rym! –
Daeth dy ddiwedd mor sydyn!’
11 “Bydd pobl fusnes y ddaear yn crio ac yn galaru drosti hi am fod neb yn prynu ei chargo ddim mwy – 12 cargo o aur, arian, gemau gwerthfawr a pherlau, lliain main, defnydd porffor, sidan ac ysgarlad; nwyddau o goed Sitron, pethau wedi'u gwneud o ifori, a phob math o bethau eraill wedi'u gwneud o goed gwerthfawr, o efydd, haearn ac o farmor; 13 sinamon a pherlysiau, arogldarth fel myrr a thus, hefyd gwin ac olew olewydd, blawd mân a gwenith; gwartheg, defaid, ceffylau a cherbydau; a chaethweision hefyd – ie, pobl yn cael eu gwerthu fel anifeiliaid. 14 “Mae'r holl bethau roeddet ti'n dyheu amdanyn nhw wedi mynd! Dy holl gyfoeth a dy grandrwydd wedi diflannu! Fyddan nhw fyth yn dod nôl! 15 Bydd y bobl fusnes gafodd arian mawr wrth werthu'r pethau hyn iddi, yn sefyll yn bell i ffwrdd, mewn dychryn wrth weld beth mae'n ei ddioddef. Byddan nhw'n crio ac yn galaru 16 ac yn gweiddi:‘Och! Och! Ti ddinas fawr!
wedi dy wisgo mewn defnydd hardd
a gwisg o borffor ac ysgarlad,
a'th addurno dy hun â thlysau o aur
a gemau gwerthfawr a pherlau!
17 Mae'r fath gyfoeth wedi'i ddinistrio mor sydyn!’
“Bydd capteiniaid llongau a phawb sy'n teithio ar y môr, yn forwyr a phawb arall sy'n ennill eu bywoliaeth o'r môr, yn sefyll yn bell i ffwrdd. Croes 18 Wrth weld y mwg yn codi am ei bod hi'n llosgi, byddan nhw'n gweiddi, ‘Oes dinas arall debyg i'r ddinas fawr hon?’ 19 Byddan nhw'n taflu pridd ar eu pennau, ac yn crio a galaru a gweiddi'n uchel:‘Och! Och! Ddinas fawr!
cafodd pawb oedd ganddyn nhw longau ar y môr
gyfoeth am ei bod hi mor gyfoethog!
Mae hi wedi'i dinistrio mor sydyn!’
20 Bydd lawen, nefoedd, am beth sydd wedi digwydd iddi,
Byddwch lawen, chi bobl Dduw, a'i gynrychiolwyr a'i broffwydi –
Mae Duw wedi'i barnu hi am y ffordd wnaeth hi eich trin chi!”
21 Wedyn dyma angel pwerus yn codi anferth o garreg fawr, tebyg i faen melin mawr, a'i thaflu i'r môr; ac meddai:“Dyna sut fydd Babilon, y ddinas fawr,
yn cael ei bwrw i lawr yn ffyrnig –
fydd neb yn ei gweld byth mwy!
22 Fydd dim sŵn telynau na cherddorion,
ffliwtiau nac utgyrn, i'w clywed ynot eto.
Neb sy'n dilyn unrhyw grefft i'w weld ynot eto.
Dim sŵn maen melin yn troi;
Dim sŵn gwledd briodas i'w glywed.
Ti oedd y ganolfan fusnes fwyaf dylanwadol yn y byd i gyd,
hudaist y cenhedloedd a'u harwain ar gyfeiliorn.
24 Yn wir, Babilon wnaeth dywallt gwaed y proffwydi a phobl Dduw; a phawb yn y byd gafodd eu lladd ar gam.”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity