|
|
“Haleliwia!
Duw sy'n achub;
a fe biau'r anrhydedd a'r nerth!
2 Mae ei ddyfarniad e bob amser
yn deg ac yn gyfiawn.
Mae wedi condemnio'r butain fawr
a lygrodd y ddaear gyda'i hanfoesoldeb rhywiol.
Mae wedi dial arni hi
am ladd y bobl oedd yn ei wasanaethu.”
3 A dyma nhw'n gweiddi eto:“Haleliwia!
Mae'r mwg sy'n codi ohoni
yn para byth bythoedd.”
4 Dyma'r dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol a'r pedwar creadur byw yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn addoli Duw, oedd yn eistedd ar yr orsedd, a chanu:“Amen! Haleliwia!”
5 Wedyn dyma lais yn dod o'r orsedd yn dweud:“Molwch ein Duw!
Pawb sy'n ei wasanaethu,
a chi sy'n ei ofni,
yn fawr a bach!”
6 Wedyn clywais rywbeth oedd yn swnio'n debyg i dyrfa enfawr o bobl, neu sŵn rhaeadrau o ddŵr neu daran uchel:“Haleliwia!
Mae'r Arglwydd Dduw Hollalluog
wedi dechrau teyrnasu.
7 Gadewch i ni ddathlu a gorfoleddu
a rhoi clod iddo!
Mae diwrnod priodas yr Oen wedi cyrraedd,
ac mae'r ferch sydd i'w briodi wedi gwneud ei hun yn barod.
8 Mae hi wedi cael gwisg briodas
o ddefnydd hardd, disglair a glân.”
(Mae'r defnydd hardd yn cynrychioli gweithredoedd da pobl Dduw.) 9 Wedyn dyma'r angel yn dweud wrtho i, “Ysgrifenna hyn i lawr: ‘Mae'r rhai sy'n cael gwahoddiad i wledd briodas yr Oen wedi'u bendithio'n fawr!’” Wedyn dyma fe'n dweud, “Neges gan Dduw ydy hon, ac mae'n wir.” 10 Yna syrthiais i lawr wrth ei draed a'i addoli. Ond meddai, “Paid! Duw ydy'r unig un rwyt i'w addoli! Un sy'n gwasanaethu Duw ydw i, yn union yr un fath â ti a dy frodyr a dy chwiorydd sy'n glynu wrth y dystiolaeth sydd wedi'i rhoi gan Iesu. Mae'r dystiolaeth sydd wedi'i rhoi gan Iesu a phroffwydoliaeth yr Ysbryd yr un fath.”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity