|
|
“Rwyt ti'n deilwng i gymryd y sgrôl
ac i dorri y seliau,
am dy fod ti wedi cael dy ladd yn aberth,
ac wedi prynu pobl i Dduw â'th waed –
pobl o bob llwyth ac iaith,
hil a chenedl.
10 Rwyt wedi teyrnasu drostyn nhw
a'u gwneud yn offeiriaid i wasanaethu ein Duw.
Byddan nhw'n teyrnasu ar y ddaear.”
11 Yna yn y weledigaeth, clywais sŵn tyrfa enfawr o angylion – miloedd ar filoedd ohonyn nhw! … miliynau! Roedden nhw'n sefyll yn gylch o gwmpas yr orsedd a'r creaduriaid byw a'r arweinwyr ysbrydol, 12 ac yn canu'n uchel:“Mae'r Oen gafodd ei ladd yn deilwng
i dderbyn grym a chyfoeth,
doethineb a nerth,
anrhydedd, ysblander a mawl!”
13 Yna clywais bopeth byw yn y nefoedd ac ar y ddaear, tan y ddaear ac ar y môr – y cwbl i gyd – yn canu:“Clod ac anrhydedd, gogoniant a nerth
am byth bythoedd,
i'r Un sy'n eistedd ar yr orsedd,
ac i'r Oen!”
14 “Amen!” meddai'r pedwar creadur byw, a dyma'r arweinwyr ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau i addoli.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity