|
|
“Fi sy'n dewis pwy i drugarhau wrthyn nhw,
a phwy dw i'n mynd i dosturio wrthyn nhw.”Croes
16 Hynny ydy, trugaredd Duw sydd tu ôl i'r cwbl, dim beth dŷn ni eisiau neu beth dŷn ni'n ei gyflawni. 17 Yn ôl yr ysgrifau sanctaidd dwedodd Duw wrth y Pharo: “Dyma pam wnes i dy godi di – er mwyn dangos trwot ti mor bwerus ydw i, ac er mwyn i bawb drwy'r byd i gyd ddod i wybod amdana i.”Croes 18 Felly mae Duw yn dangos trugaredd at bwy bynnag mae'n ei ddewis, ac mae hefyd yn gwneud pwy bynnag mae'n ei ddewis yn ystyfnig. 19 “Ond os felly,” meddai un ohonoch chi, “pa hawl sydd gan Dduw i weld bai, gan fod neb yn gallu mynd yn groes i'w ewyllys?” 20 Ond pwy wyt ti i ddadlau yn erbyn Duw? Dim ond person dynol wyt ti! “Oes gan y peth sydd wedi'i siapio hawl i ddweud wrth yr un wnaeth ei greu, ‘Pam wyt ti wedi fy ngwneud i fel hyn?’”Croes 21 Oes gan y crochenydd ddim hawl i ddefnyddio'r un lwmp o glai i wneud llestr crand neu i wneud llestr fydd yn dal sbwriel? 22 A'r un fath, mae gan Dduw berffaith hawl i ddangos ei ddigofaint a'i nerth! Mae wedi bod mor amyneddgar gyda'r rhai sy'n haeddu dim byd ond cosb, ac sy'n dda i ddim ond i gael eu dinistrio! 23 Ac mae'n barod i ddangos ei ysblander aruthrol, a'i rannu gyda'r rhai mae wedi dewis trugarhau wrthyn nhw, sef y rhai mae wedi'u paratoi ar gyfer hynny o'r dechrau cyntaf. 24 Ac ie, ni ydy'r rheiny! – dim Iddewon yn unig, ond pobl o genhedloedd eraill hefyd! 25 Fel mae'n dweud yn llyfr Hosea:“Galwaf ‛nid fy mhobl‛ yn bobl i mi;
a ‛heb ei charu‛ yn un a gerir”Croes
26 a hefyd,“Yn yr union le lle dwedwyd wrthyn nhw,
‘Dych chi ddim yn bobl i mi’
byddan nhw'n cael eu galw yn
blant y Duw byw.”Croes
27 Ac mae Eseia'n dweud fel hyn am Israel:“Hyd yn oed petai pobl Israel mor niferus â thywod y môr,
dim ond gweddillion – rhyw nifer fechan – fydd yn cael eu hachub,
28 Oherwydd yn fuan iawn bydd yr Arglwydd yn gorffen,
ac yn gwneud beth ddwedodd ar y ddaear.”Croes
29 Mae'n union fel roedd Eseia wedi dweud yn gynharach:“Oni bai i Arglwydd y Lluoedd adael rhai ohonon ni'n fyw,
bydden ni wedi'n dinistrio fel Sodom,
ac wedi diflannu'n llwyr fel Gomorra.” Ref Croes
Edrychwch – dw i'n gosod yn Jerwsalem
garreg sy'n baglu pobl
a chraig sy'n gwneud iddyn nhw syrthio.
Ond fydd pwy bynnag sy'n credu ynddo ddim yn cael ei siomi.Croes
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity