RUTH 1
Trasiedi'r teulu wnaeth symud i wlad Moab
1 Yn ystod cyfnod y barnwyr buodd yna newyn yn y wlad. Felly aeth rhyw ddyn o Bethlehem yn Jwda i fyw i wlad Moab dros dro. Aeth â'i wraig a'i ddau fab gydag e.
2 Elimelech oedd enw'r dyn, a Naomi oedd ei wraig. Machlon a Cilion Ref oedd enwau'r ddau fab. Pobl o Effratha oedden nhw (sef yr hen enw ar Bethlehem yn Jwda). Dyma nhw'n mynd i wlad Moab ac yn aros yno.
3 Ond wedyn dyma Elimelech, gŵr Naomi, yn marw, a'i gadael hi yn weddw gyda'i dau fab.
4 Priododd y ddau fab ferched o wlad Moab. (Orpa oedd enw un, a Ruth oedd y llall.) Ar ôl iddyn nhw fod yno am tua deg mlynedd,
5 dyma Machlon a Cilion yn marw hefyd. Cafodd Naomi ei gadael heb feibion a heb ŵr.
Ruth yn aros gyda Naomi
6 Tra oedd hi'n dal yn byw yn Moab, clywodd Naomi fod Duw wedi rhoi bwyd i'w bobl. Felly, dyma hi a'i dwy ferch-yng-nghyfraith yn cychwyn yn ôl o wlad Moab.
7 Dyma nhw'n gadael ble roedden nhw wedi bod yn byw, a chychwyn ar y daith yn ôl i wlad Jwda.
8 Yna dyma Naomi yn dweud wrth ei merched-yng-nghyfraith, “Ewch chi yn ôl adre, y ddwy ohonoch chi. Ewch yn ôl at eich mamau. Bydded Duw mor garedig atoch chi ac y buoch chi ata i, ac at fy meibion sydd wedi marw.
9 A bydded i Dduw roi cartref i chi a threfnu i chi'ch dwy briodi eto.” Wedyn dyma Naomi yn cusanu'r ddwy a ffarwelio â nhw, a dyma nhw'n dechrau crio'n uchel.
10 “Na!” medden nhw, “gad i ni fynd yn ôl gyda ti at dy bobl di.”
11 Ond meddai Naomi, “Ewch adre, merched i. Pam fyddech chi eisiau dod gyda fi? Gaf i byth feibion eto i chi eu priodi nhw.
12 Ewch adre, merched i! Ewch! Dw i'n rhy hen i briodi eto. A hyd yn oed petai gobaith, a finnau'n cael gŵr heno ac yn cael plant,
13 fyddech chi'n disgwyl iddyn nhw dyfu? Fyddech chi'n aros amdanyn nhw heb briodi? Na, merched i. Dw i ddim eisiau i chi ddiodde fel fi. Yr ARGLWYDD sydd wedi gwneud i mi ddiodde.”
14 Dyma nhw'n dechrau crio'n uchel eto. Wedyn dyma Orpa'n rhoi cusan i ffarwelio â Naomi. Ond roedd Ruth yn ei chofleidio'n dynn ac yn gwrthod gollwng gafael.
15 Dwedodd Naomi wrthi, “Edrych, mae dy chwaer-yng-nghyfraith wedi mynd yn ôl at ei phobl a'i duw ei hun. Dos dithau ar ei hôl hi.”
16 Ond atebodd Ruth,
“Paid rhoi pwysau arna i i dy adael di
a throi cefn arnat ti.
Dw i am fynd ble bynnag fyddi di yn mynd.
A dw i'n mynd i aros ble bynnag fyddi di'n aros.
Bydd dy bobl di yn bobl i mi,
a dy Dduw di yn Dduw i mi.
17 Ble bynnag fyddi di'n marw,
dyna lle fyddai i'n marw
ac yn cael fy nghladdu.
Boed i Dduw ddial arna i
os bydd unrhyw beth ond marwolaeth
yn ein gwahanu ni'n dwy.”
18 Pan welodd Naomi fod Ruth yn benderfynol o fynd gyda hi, ddwedodd hi ddim mwy am y peth.
19 A dyma'r ddwy yn mynd yn eu blaenau nes iddyn nhw gyrraedd Bethlehem.
Naomi a Ruth yn cyrraedd Bethlehem
Pan gyrhaeddon nhw Bethlehem roedd y dre i gyd wedi cynhyrfu. Roedd y merched yn holi, “Ai Naomi ydy hi?”
20 A dyma hi'n ateb, “Peidiwch galw fi yn ‛Naomi‛. Galwch fi'n ‛Mara‛. Mae'r Un sy'n rheoli popeth Ref wedi gwneud fy mywyd i'n chwerw iawn.
21 Roedd fy mywyd i'n llawn pan es i o ma, ond mae Duw wedi dod â fi yn ôl yn wag. Sut allwch chi alw fi'n ‛Naomi‛ pan mae Duw wedi sefyll yn fy erbyn i, a'r Un sy'n rheoli popeth wedi dod â drwg arna i.”
22 Felly daeth Naomi yn ôl o wlad Moab gyda'i merch-yng-nghyfraith, Ruth, y Foabes. Dyma nhw'n cyrraedd Bethlehem ar ddechrau'r cynhaeaf haidd.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity