RUTH 2
Ruth yn cyfarfod Boas
1 Roedd gan Naomi berthynas i'w gŵr o'r enw Boas. Roedd yn ddyn pwysig, cyfoethog, ac yn perthyn i'r un teulu ag Elimelech.
2 Dyma Ruth, y Foabes, yn dweud wrth Naomi, “Gad i mi fynd allan i'r caeau i gasglu grawn tu ôl i bwy bynnag fydd yn rhoi caniatâd i mi.” Ref Croes “Dos di, fy merch i,” meddai Naomi.
3 Felly aeth Ruth i'r caeau i gasglu grawn ar ôl y gweithwyr. Ac yn digwydd bod, dyma hi'n mynd i'r rhan o'r cae oedd piau Boas, perthynas Elimelech.
4 A phwy fyddai'n meddwl! Dyma Boas yn dod o Fethlehem a chyfarch y gweithwyr yn y cynhaeaf. “Duw fyddo gyda chi!” meddai wrthyn nhw. A dyma nhw'n ateb, “Bendith Duw arnat tithau hefyd!”
5 Yna gofynnodd Boas i'r gwas oedd yn gofalu am y gweithwyr, “I bwy mae'r ferch acw'n perthyn?”
6 “Hi ydy'r ferch o Moab ddaeth yn ôl gyda Naomi,” atebodd hwnnw.
7 “Gofynnodd ganiatâd i gasglu grawn rhwng yr ysgubau tu ôl i'r gweithwyr. Mae hi wedi bod wrthi'n ddi-stop ers ben bore, a dim ond newydd eistedd i orffwys.”
8 Dyma Boas yn mynd at Ruth a dweud, “Gwranda, fy merch i, paid mynd o'r fan yma i gae neb arall i gasglu grawn. Aros gyda'r merched sy'n gweithio i mi.
9 Sylwa ble fyddan nhw'n gweithio, a'u dilyn nhw. Bydda i'n siarsio'r gweithwyr i beidio dy gyffwrdd di. A phan fydd syched arnat ti, dos i gael diod o'r llestri fydd fy ngweision i wedi'u llenwi.”
10 Dyma Ruth yn plygu i lawr ar ei gliniau o'i flaen. “Pam wyt ti mor garedig ata i, ac yn cymryd sylw ohono i, a finnau'n dod o wlad arall?”
11 “Dw i wedi clywed am y cwbl rwyt i wedi'i wneud i dy fam-yng-nghyfraith ar ôl i dy ŵr farw,” meddai Boas. “Dw i wedi clywed sut wnest ti adael dy dad a dy fam, a'r wlad lle cest ti dy eni, a dod i fyw i ganol pobl oedd yn ddieithr i ti.
12 Boed i Dduw dy wobrwyo di am wneud hyn. Byddi'n cael dy dâl yn llawn gan yr ARGLWYDD, Duw Israel, yr un wyt wedi dod i gysgodi dan ei adain.”
13 Dwedodd Ruth, “Ti'n garedig iawn ata i, syr. Ti wedi rhoi tawelwch meddwl i mi ac wedi codi fy nghalon i, er nad ydw i'n un o'r merched sy'n gweithio i ti.”
14 Pan oedd hi'n amser bwyta, dyma Boas yn dweud wrth Ruth, “Tyrd i fwyta gyda ni! Dipia dy fara yn y saws.” Felly dyma hi'n eistedd gyda'r gweithwyr, a dyma Boas yn estyn grawn wedi'i grasu iddi. Cafodd Ruth ddigon i'w fwyta, ac roedd ganddi beth dros ben.
15 Wedi iddi godi a mynd yn ôl i gasglu grawn, dyma Boas yn gorchymyn i'w weithwyr. “Gadewch iddi gasglu rhwng yr ysgubau a pheidiwch â'i dwrdio hi.
16 Dw i am i chi hyd yn oed dynnu peth allan o'r ysgubau a'i adael iddi ei gasglu. Peidiwch dweud y drefn wrthi am ei gymryd.”
17 Felly buodd Ruth wrthi'n casglu grawn nes iddi nosi.
Ar ôl iddi ddyrnu yr hyn roedd wedi'i gasglu, roedd ganddi dros ddeg cilogram o haidd!
18 Dyma hi'n ei gario yn ôl adre, a gwelodd ei mam-yng-nghyfraith gymaint roedd hi wedi'i gasglu. A dyma Ruth yn rhoi'r bwyd oedd dros ben ers amser cinio iddi hefyd.
19 Gofynnodd Naomi iddi, “Ble fuost ti'n gweithio ac yn casglu grawn heddiw? Bendith Duw ar bwy bynnag gymrodd sylw ohonot ti!” A dyma Ruth yn esbonio lle roedd hi wedi bod. “Boas ydy enw'r dyn lle roeddwn i'n gweithio,” meddai.
20 “Bendith yr ARGLWYDD arno!” meddai Naomi, “Mae e wedi bod yn garedig aton ni sy'n fyw a'r rhai sydd wedi marw. Mae'r dyn yma yn perthyn i ni. Mae e'n un o'r rhai sy'n gyfrifol amdanon ni.”Croes
21 Meddai Ruth y Foabes, “Dwedodd wrtho i hefyd, ‘Aros gyda fy ngweithwyr i nes byddan nhw wedi gorffen casglu'r cynhaeaf i gyd.’”
22 A dyma Naomi yn dweud, “Ie, dyna'r peth gorau i ti ei wneud, fy merch i. Aros gyda'r merched sy'n gweithio iddo fe. Fel yna, fydd neb yn ymosod arnat ti mewn cae arall.”
23 Felly dyma Ruth yn aros gyda morynion Boas. Buodd yn casglu grawn tan ddiwedd y cynhaeaf haidd a'r cynhaeaf gwenith. Ond roedd hi'n byw gyda'i mam-yng-nghyfraith.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity