|
|
2 Tyrd, cusana fi drosodd a throsodd!
Mae dy anwesu cariadus yn well na gwin,
3 ac arogl dy bersawr mor hyfryd.
Rwyt fel yr olew persawrus gorau –
does dim syndod fod merched ifanc
yn dy garu di.
gad i ni frysio! Fy mrenin,
dos â fi i dy ystafell wely.
Gad i ni fwynhau a chael pleser;
mae profi gwefr dy gyffyrddiad
yn well na gwin. Ref
Mae'n ddigon teg fod merched ifanc
yn dy garu di.
mae fy nghroen yn ddu ond dw i'n hardd –
yn dywyll fel pebyll duon pobl Cedar, Ref
a hardd fel llenni palas Solomon.
6 Peidiwch syllu arna i am fy mod yn ddu
a'r haul wedi rhoi croen tywyll i mi.
Roedd fy mrodyr wedi gwylltio gyda mi,
a gwneud i mi ofalu am y gwinllannoedd;
ond methais ofalu amdana i fy hun.
Ble rwyt ti'n arwain dy ddefaid?
Ble fyddan nhw'n gorffwys ganol dydd?
Dwed wrtho i, rhag i mi orfod gwisgo fêl
a chrwydro o gwmpas preiddiau dy ffrindiau.
8 O'r harddaf o ferched! Os nad wyt yn gwybod,
dilyn olion traed y praidd
a bwyda dy eifr wrth wersyll y bugeiliaid.
9 F'anwylyd, rwyt fel y gaseg ifanc harddaf
sy'n tynnu cerbydau'r Pharo.
10 Mae tlysau ar dy fochau hardd,
a chadwyn o emau hyfryd am dy wddf.
11 Dw i am roi tlysau aur i ti,
wedi'u haddurno ag arian.
12 Tra oedd fy mrenin yn gorwedd ar ei wely,
roedd arogl fy mhersawr yn llenwi'r awyr.
13 Mae fy nghariad fel cwdyn o fyrr hyfryd
yn gorwedd drwy'r nos rhwng fy mronnau.
14 Mae fy nghariad fel tusw o flodau henna
o winllannoedd ffrwythlon En-gedi. Ref
15 O, rwyt mor hardd, f'anwylyd!
O, rwyt mor hardd!
Mae dy lygaid fel colomennod.
16 O, rwyt mor olygus, fy nghariad –
ac mor hyfryd!
Mae'r gwyrddni fel canopi o'n cwmpas
yn gorchuddio'n gwely.
17 Mae canghennau'r coed cedrwydd
fel trawstiau yn y to uwch ein pen;
a'r coed pinwydd fel paneli.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity