|
|
1 Wrth orwedd ar fy ngwely yn y nos
byddai gen i hiraeth am fy nghariad;
dyheu am ei gwmni, ond methu ei gael.
2 “Dw i'n mynd i godi i edrych amdano yn y dre –
crwydro'r strydoedd a'r sgwariau
yn chwilio am fy nghariad.”
Dyheu am ei gwmni, ond methu ei gael.
3 Dyma'r gwylwyr nos yn fy ngweld
wrth grwydro ar batrôl o gwmpas y dre.
Gofynnais, “Welsoch chi fy nghariad?”
pan ddes i o hyd i'm cariad!
Gafaelais ynddo'n dynn a gwrthod ei ollwng
nes mynd ag e i dŷ fy mam,
i'w hystafell wely.
5 Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnoch
o flaen y gasél a'r ewig gwyllt:
Peidiwch trio cyffroi cariad rhywiol
nes mae'n barod.
6 Beth sy'n dod o gyfeiriad yr anialwch,
yn codi llwch fel colofnau o fwg?
Fel mwg yr arogldarth yn codi o'r allor –
myrr a thus a phob powdr persawrus
sydd ar werth gan fasnachwyr teithiol.
7 Edrychwch! Soffa gludo Solomon ydy hi!
Mae chwe deg o filwyr o'i gwmpas –
arwyr dewr Israel.
8 Mae gan bob un ei gleddyf yn barod,
ac maen nhw wedi'u hyfforddi i ryfela.
Mae cleddyf pob un ar ei glun
i'w amddiffyn rhag peryglon y nos.
9 Mae gan Solomon gadair gludo
wedi'i gwneud o goed o Libanus.
a'i ffrâm o aur;
ei sedd o ddefnydd porffor
a'r tu mewn wedi'i addurno â chariad.
11 Ferched Jerwsalem, dewch allan!
Dewch, ferched Seion i syllu ar Solomon
yn gwisgo'r goron gafodd gan ei fam
ar ddiwrnod ei briodas –
diwrnod hapusaf ei fywyd!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity