|
|
1 Dw i'n dod i'm gardd, ferch annwyl, fy nghariad –
i gasglu fy myrr a'm perlysiau,
i flasu'r diliau a'r mêl,
ac i yfed y gwin a'r llaeth.
Mwynhewch y wledd, gariadon!
Yfwch a meddwi ar anwesu a charu!
2 Rôn i'n gorffwys, ond roedd fy meddwl yn effro.
Ust! Llais fy nghariad; mae'n curo –
“Agor i mi ddod i mewn, f'anwylyd,
fy nghariad, fy ngholomen berffaith.
Mae fy ngwallt yn wlyb gan wlith,
a'm pen yn llaith gan niwl y nos.”
3 “Ond dw i'n noeth, heb ddim amdana i.
Ti am i mi wisgo eto, wyt ti?
A dw i wedi golchi fy nhraed. Ref
Oes rhaid i mi eu baeddu eto?”
4 Yna gwthiodd ei law i agor y drws, Ref
a theimlais wefr yn mynd drwyddo i.
roedd fy nwylo'n diferu o fyrr –
roedd y myrr yn llifo i lawr fy mysedd
pan afaelais yn yr handlen.
ond roedd e wedi troi a mynd!
Suddodd fy nghalon o'm mewn pan aeth.
Chwiliais amdano, ond methu ei gael;
galwais arno, ond doedd dim ateb.
7 Dyma'r gwylwyr nos yn fy ngweld
wrth grwydro ar batrôl o gwmpas y dre.
Dyma nhw'n fy nghuro a'm cam-drin
a rhwygo fy nghlogyn oddi arna i –
y gwylwyr nos oedd yn gwarchod waliau'r ddinas!
8 Ferched Jerwsalem, gwrandwch –
os dewch chi o hyd i'm cariad,
dwedwch wrtho mod i'n glaf o gariad.
beth sy'n gwneud dy gariad
yn well na dynion eraill?
Beth sy'n gwneud dy gariad
yn well na dynion eraill,
i ti grefu mor daer â hyn?
10 Mae nghariad yn ffit ac yn iach;
mae'n sefyll allan yng nghanol y dyrfa.
11 Mae ei wyneb a'i wedd fel aur pur,
a'i wallt cyrliog yn ddu fel y frân.
12 Mae ei lygaid fel colomennod wrth nentydd dŵr,
yn wyn fel llaeth ac yn berffaith yn eu lle.
13 Mae arogl ei fochau fel gwely o berlysiau,
a chusan ei wefusau fel y lili
yn diferu o fyrr.
14 Mae ei freichiau cyhyrog fel aur
wedi'u haddurno â meini gwerthfawr;
a'i gorff lluniaidd fel ifori llyfn
wedi'i orchuddio â meini saffir.
15 Mae ei goesau fel pileri o farmor
wedi'u gosod ar sylfaen o aur pur.
Mae e'n sefyll fel mynyddoedd Libanus
a'u coed cedrwydd urddasol.
mae popeth amdano'n ddeniadol!
Dyna fy nghariad, dyna fy nghymar,
ferched Jerwsalem.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity