|
|
1 Ble'r aeth dy gariad, ti'r harddaf o ferched?
Ble'r aeth e?
Gad i ni chwilio amdano gyda'n gilydd.
2 Mae nghariad wedi mynd i lawr i'w ardd –
i'w welyau o berlysiau.
Mae wedi mynd i bori yn y gerddi,
a chasglu'r lilïau.
3 Fy nghariad piau fi, a fi piau nghariad;
mae e'n pori yng nghanol y lilïau.
4 F'anwylyd, rwyt ti'n hardd fel dinas Tirtsa, Ref
ac mor hyfryd â Jerwsalem.
Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol! Ref
mae dy lygaid yn fy aflonyddu!
Mae dy wallt du yn llifo fel praidd o eifr
yn dod i lawr o fynydd Gilead.
fel rhes o ddefaid newydd eu golchi.
Maen nhw i gyd yn berffaith; Ref
does dim un ar goll.
a'u gwrid fel pomgranadau.
8 Gallwn gael chwe deg brenhines,
wyth deg o bartneriaid, Ref
a merched ifanc di-rif!
fy ngholomen berffaith.
Merch arbennig ei mam;
hoff un yr un â'i cenhedlodd.
Mae pob merch ifanc sy'n ei gweld
yn ei hedmygu.
Mae pob brenhines a chariad
yn canu am ei harddwch:
10 “Pwy ydy hon sy'n codi fel y wawr?
Pwy ydy hi? – mor hardd â'r lleuad llawn,
mor bur â phelydrau'r haul.
Yn odidog! Yn gwbl syfrdanol!”
11 Es i lawr i'r berllan lle mae'r coed cnau,
i weld y tyfiant yn y dyffryn;
i weld a oedd y winwydden wedi blaguro,
a'r pomgranadau'n blodeuo.
Tyrd, rho fyrr dy gariad i mi,
o ferch fy mhobl fonheddig. Ref
13 Tyrd yma! Tyrd yma ti'r un berffaith!
Tyrd yma! Tyrd yma i mi edrych arnat ti.
Pam? Fyddet ti am edrych arna i, dy un berffaith,
fel un yn dawnsio yng nghanol y gwersyll?
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity