|
|
1 Mae dy draed yn dy sandalau mor hardd,
o ferch fonheddig.
Mae dy gluniau mor siapus –
fel gemwaith gan grefftwr medrus.
2 Mae dy wain ddirgel fel cwpan gron
yn llawn o'r gwin cymysg gorau.
Mae dy fol fel pentwr o wenith
a chylch o lilïau o'i gwmpas.
fel dwy gasél ifanc, efeilliaid.
4 Mae dy wddf fel tŵr o ifori,
a'th lygaid fel llynnoedd Cheshbon
ger mynedfa Bath-rabbîm.
Mae dy drwyn hardd fel y tŵr yn Libanus
sy'n wynebu dinas Damascus.
fel Mynydd Carmel
ac mae dy wallt hardd fel edafedd drud
yn dal y brenin yn gaeth yn ei dresi.
6 O, rwyt mor hardd! Mor hyfryd!
Ti'n fy hudo, fy nghariad!
7 Ti'n dal fel coeden balmwydd,
a'th fronnau'n llawn fel ei sypiau o ddatys.
8 Dw i am ddod a dringo'r goeden
a gafael yn ei ffrwythau.
Mae dy fronnau fel sypiau o rawnwin,
a'u sawr yn felys fel afalau.
9 Mae dy gusanau fel y gwin gorau
yn llifo'n rhydd ar fy ngwefusau
wrth i ni fynd i gysgu.
ac mae f'eisiau.
11 Tyrd, fy nghariad, gad i ni fynd i'r caeau;
gad i ni dreulio'r nos rhwng y blodau henna.
a mynd lawr i'r gwinllannoedd,
i weld os ydy'r winwydden wedi blaguro
a'u blodau wedi agor;
ac i weld os ydy'r pomgranadau'n blodeuo –
yno gwnaf roi fy hun i ti.
13 Yno bydd persawr hyfryd y mandragorau Ref
yn llenwi'r awyr,
a danteithion pleser wrth ein drysau –
y cwbl dw i wedi'i gadw
i'w rannu gyda ti, fy nghariad.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity