|
|
1 O na fyddet ti fel brawd bach i mi,
wedi'i fagu ar fron fy mam;
byddwn yn dy gusanu di'n agored,
a fyddai neb yn meddwl yn ddrwg amdana i.
yr un ddysgodd bopeth i mi.
Rhof i ti win yn gymysg â pherlysiau,
gwin melys fy mhomgranadau.
3 Mae ei law chwith dan fy mhen,
a'i law dde yn fy anwesu.
4 Ferched Jerwsalem, dw i'n pledio arnoch:
Pam trio cyffroi cariad rhywiol
cyn ei fod yn barod?
5 Pwy sy'n dod o gyfeiriad yr anialwch
yn pwyso ar fraich ei chariad?
Cynhyrfais di dan y goeden afalau.
Dyna ble gwnaeth dy fam dy genhedlu,
a dyna ble cest ti dy eni.
6 Gosod fi fel sêl ar dy galon,
fel sêl-fodrwy ar dy law.
Mae gafael cariad yn gryf fel marwolaeth,
ac mae nwyd angerddol mor ddi-ildio â'r bedd.
Mae ei fflamau'n fflachio'n wyllt,
fel tân sy'n llosgi'n wenfflam.
7 All dyfroedd y môr ddim diffodd cariad;
all llifogydd mo'i ysgubo i ffwrdd.
Petai rhywun yn cynnig ei gyfoeth i gyd amdano,
byddai'n ddim byd ond testun sbort.
a'i bronnau heb dyfu.
Beth wnawn ni i'w helpu
pan gaiff ei haddo i'w phriodi?
gallwn ei haddurno gyda thyrau arian!
Os ydy hi fel drws,
gallwn ei bordio gyda coed cedrwydd!
ond bellach mae fy mronnau fel tyrau,
felly dw i'n gwbl aeddfed yn ei olwg e.
11 Roedd gan Solomon winllan yn Baal-hamon,
a rhoddodd y winllan ar rent i denantiaid.
Byddai pob un yn talu mil o ddarnau arian am ei ffrwyth.
12 Mae'r mil o ddarnau arian i ti, Solomon,
a dau gant i'r rhai sy'n gofalu am ei ffrwyth;
ond mae fy ngwinllan i i mi'n unig.
mae yna ffrindiau'n gwrando am dy lais;
ond gad i mi fod yr un sy'n ei glywed.
bydd fel gasél neu garw ifanc
ar fynyddoedd y perlysiau.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity