|
|
adeg tymor cawodydd y gwanwyn –
yr
ARGLWYDD sy'n anfon y stormydd.Bydd yn anfon cawodydd trwm o law
a bydd digon o gnydau yn tyfu i bawb.
2 Mae eilun-ddelwau teuluol yn camarwain pobl,
a'r rhai sy'n dweud ffortiwn yn twyllo
– mae eu breuddwydion yn ffals,
a'u cysur yn ddiwerth.
Felly mae'r bobl yn crwydro fel defaid,
heb fugail i'w hamddiffyn.
3 “Dw i wedi gwylltio'n lân gyda ‛bugeiliaid‛ y gwledydd,
ac yn mynd i'w cosbi nhw – y ‛bychod‛ sydd ar y blaen!”
Mae'r
ARGLWYDD hollbwerusyn mynd i ofalu am ei braidd, sef pobl Jwda,
a'u gwneud nhw fel ceffylau rhyfel cryfion.
4 Ohonyn nhw y daw y garreg sylfaen,
Ohonyn nhw daw'r peg i ddal y babell,
Ohonyn nhw daw'r bwa rhyfel,
Ohonyn nhw daw pob arweinydd cryf.
5 Byddan nhw fel milwyr dewr mewn brwydr
yn martsio drwy'r mwd ar faes y gâd.
Am fod yr
ARGLWYDD gyda nhw,byddan nhw'n ymladd
ac yn curo cafalri'r gelyn.
6 “Dw i'n mynd i wneud teyrnas Jwda'n gryf,
ac achub pobl Israel. Ref
Dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl
a dangos trugaredd atyn nhw –
bydd fel petawn i erioed wedi'u gwrthod nhw.
Fi ydy'r
ARGLWYDD eu Duw nhw,a dw i'n mynd i'w hateb nhw.
7 Bydd pobl Israel Ref fel milwyr dewr
yn dathlu fel petaen nhw wedi meddwi.
Bydd eu plant mor hapus wrth weld hynny,
ac yn gorfoleddu yn yr
ARGLWYDD.i'w casglu nhw at ei gilydd –
dw i'n eu gollwng nhw'n rhydd!
Bydd cymaint ohonyn nhw ag o'r blaen.
9 Er i mi eu gwasgaru drwy'r gwledydd,
byddan nhw'n meddwl amdana i mewn mannau pell –
a byddan nhw a'u plant yn dod yn ôl
10 Bydda i'n dod â nhw yn ôl o'r Aifft,
ac yn eu casglu nhw o Asyria;
mynd â nhw i dir Gilead a Libanus,
a fydd hyd yn oed hynny ddim digon o le.
11 Byddan nhw'n croesi'r môr stormus,
a bydd e'n tawelu'r tonnau.
Bydd dŵr dwfn afon Nîl yn sychu,
balchder Asyria'n cael ei dorri,
a'r Aifft yn rheoli ddim mwy.
12 Bydda i'n gwneud fy mhobl yn gryf,
a byddan nhw'n byw fel dw i'n dweud,”
—yr
ARGLWYDD sy'n dweud hyn.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity