SECHAREIA 5
Gweledigaeth 6 – Sgrôl yn hedfan
1 Yna dyma fi'n edrych eto, a gweld sgrôl yn hedfan!
2 Dyma'r angel yn gofyn i mi, “Beth wyt ti'n weld?” A dyma fi'n ateb, “Dw i'n gweld sgrôl yn hedfan. Mae'n anferth – tua naw metr o hyd, a phedwar metr a hanner o led!”
3 A dyma fe'n dweud wrtho i, “Geiriau melltith sydd arni, ac mae'n mynd allan drwy'r wlad i gyd. Mae un ochr yn dweud y bydd unrhyw un sy'n dwyn yn cael ei daflu allan o'r gymuned. Mae'r ochr arall yn dweud y bydd yr un peth yn digwydd i'r rhai sy'n dweud celwydd.Croes”
4 Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Dw i wedi anfon y felltith yma allan i gartref pob lleidr, a phawb sy'n defnyddio fy enw i wrth ddweud celwydd ar lw. Bydd y felltith yn dinistrio'r tŷ hwnnw'n llwyr – y coed a'r cerrig.”
Gweledigaeth 7 – Y wraig yn y gasgen
5 Yna dyma'r angel oedd yn siarad â mi yn camu ymlaen a dweud, “Edrych! Beth wyt ti'n ei weld yn mynd i ffwrdd?”
6 “Beth ydy e?” meddwn i. “Casgen ydy hi,” meddai'r angel. “Mae'n cynrychioli drygioni pawb drwy'r wlad i gyd.”
7 Yna dyma'r caead plwm oedd ar y gasgen yn cael ei godi, a dyna lle roedd gwraig yn eistedd yn y gasgen!
8 A dyma'r angel yn dweud, “Mae'r wraig yma'n cynrychioli drygioni.” A dyma fe'n ei gwthio hi yn ôl i'r gasgen a slamio'r caead o blwm yn ôl i'w le.
9 Yna dyma fi'n edrych eto, a gweld dwy wraig yn hedfan drwy'r awyr. Roedd ganddyn nhw adenydd mawr fel crëyr. Dyma nhw'n codi'r gasgen a hedfan i ffwrdd yn uchel i'r awyr.
10 A dyma fi'n gofyn i'r angel, “I ble maen nhw'n mynd â'r gasgen?”
11 A dyma fe'n ateb, “I wlad Babilonia, Ref i adeiladu teml iddi. Pan fydd y deml yn barod, bydd y gasgen yn cael ei gosod ar bedestal yno.”
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity