|
|
‘Byddwch yn deg bob amser,
yn garedig a thrugarog at eich gilydd.
10 Peidiwch cam-drin gwragedd gweddwon,
plant amddifad, mewnfudwyr a phobl dlawd.Croes
A pheidiwch bwriadu drwg i unrhyw un arall.’
11 “Ond doedden nhw'n cymryd dim sylw. Roedden nhw'n hollol benstiff, ac yn gwrthod yn lân a gwrando. 12 Roedd eu calonnau'n galed fel diemwnt,Croes nes eu bod yn gwrthod gwrando ar fy nysgeidiaeth, nac ar y negeseuon eraill roedd fy Ysbryd wedi'u rhoi i'r proffwydi cynnar yna eu cyhoeddi. A dyna pam wnaeth yr ARGLWYDD hollbwerus dywallt ei lid arnyn nhw. “Dwedodd yr ARGLWYDD hollbwerus.13 ‘Pan oeddwn i'n galw arnyn nhw,
doedden nhw ddim yn gwrando.
Felly pan fyddan nhw'n galw arna i,
fydda i ddim yn gwrando chwaith.Croes
14 Yn lle hynny bydda i'n eu hysgubo nhw i ffwrdd
mewn storm i wledydd dieithr.’
“A dyna pam mae'r wlad yma'n anial, heb neb yn mynd a dod ynddi. Nhw sydd wedi gwneud y tir hyfryd yma yn anialwch diffaith!”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity