SECHAREIA 8
Addo Adfer Jerwsalem
1 Dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD hollbwerus:
2 “Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn dweud, ‘Dw i'n teimlo i'r byw dros Seion. Dw i wedi gwylltio'n lân am beth maen nhw wedi'i wneud iddi.’
3 “Mae'r ARGLWYDD yn dweud, ‘Dw i'n dod yn ôl i Fynydd Seion,Croes a bydda i'n byw yn Jerwsalem. Bydd Jerwsalem yn cael ei galw ‛Y Ddinas Ffyddlon‛, ‛Mynydd yr ARGLWYDD hollbwerus‛, ‛Y Mynydd Cysegredig‛.’
4 “Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn dweud hefyd, ‘Bydd dynion a gwragedd mewn oed yn eistedd ar sgwariau Jerwsalem unwaith eto – pob un yn pwyso ar ei ffon am eu bod nhw mor hen.
5 A bydd sgwariau'r ddinas yn llawn plant – bechgyn a merched yn chwarae'n braf.
6 Falle fod y peth yn swnio'n amhosibl i'r criw bach ohonoch chi sydd yma nawr,’—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus—‘ond ydych chi'n meddwl ei fod yn amhosibl i mi?’
7 “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Dw i'n mynd i achub fy mhobl o wledydd y dwyrain a'r gorllewin,
8 a dod â nhw'n ôl i Jerwsalem i fyw. Fy mhobl i fyddan nhw, a bydda i'n Dduw iddyn nhw.Croes Bydda i'n ffyddlon ac yn deg â nhw.Croes
9 “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Dych chi'n clywed heddiw yr un peth gafodd ei ddweud gan y proffwydi pan gafodd sylfeini teml yr ARGLWYDD hollbwerus eu gosod i'w hadeiladu eto, sef, ‘Daliwch ati!
10 Cyn hynny doedd pobl nac anifeiliaid yn ennill dim am eu gwaith!Croes Doedd hi ddim yn saff i bobl fynd a dod. Rôn i'n gwneud i bawb dynnu'n groes i'w gilydd.
11 Ond nawr mae pethau'n mynd i fod yn wahanol i'r bobl yma sydd ar ôl,’—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.
12 ‘Bydd llonydd i bobl hau cnydau. Bydd ffrwyth yn tyfu ar y winwydden, a'r tir yn rhoi cnwd da. Bydd yr awyr yn rhoi glaw a gwlith i'r ddaear. Dyna sut fydd hi bob amser i'r bobl yma sydd ar ôl!
13 O'r blaen, roeddech chi'n cael eich ystyried yn wlad wedi'i melltithio, Israel a Jwda. Ond dw i'n mynd i'ch achub chi, a byddwch chi'n amlwg yn bobl wedi'u bendithio. Peidiwch bod ag ofn! Daliwch ati!’
14 Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn dweud, ‘Fel roeddwn i am eich cosbi chi pan oedd eich hynafiaid yn fy ngwylltio i (a dyna'n union beth wnes i),
15 dw i bellach am wneud pethau da i bobl Jerwsalem a Jwda – felly peidiwch bod ag ofn!
16 “‘Dyma beth dw i eisiau i chi ei wneud: Dwedwch y gwir wrth eich gilydd. Hybu cyfiawnder a thegwch yn y llysoedd barn.
17 Peidio bwriadu drwg i'ch gilydd. Peidio dweud celwydd ar lw. Dw i'n casáu pethau fel yna,’ meddai'r ARGLWYDD.”
Yr ateb i'r cwestiwn am Ymprydio
18 Dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD hollbwerus:
19 “Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn dweud, ‘Bydd y dyddiau o ympryd yn y pedwerydd, pumed, seithfed a degfed mis Ref yn troi'n ddigwyddiadau hapus – yn bartïon i bobl Jwda ddathlu! Ond rhaid caru'r gwir a byw yn heddychlon!’
20 “Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn dweud, ‘Ryw ddydd, bydd pobl o bobman yn dod yma.
21 Bydd pobl o un dref yn mynd i ddweud wrth dref arall, “Gadewch i ni droi at yr ARGLWYDD hollbwerus, a gofyn iddo'n bendithio ni. Dewch gyda ni! Dŷn ni'n mynd!”’
22 Bydd lot o bobl wahanol, a gwledydd cryfion yn dod i Jerwsalem, ac yn gofyn i'r ARGLWYDD hollbwerus eu bendithio nhw.Croes
23 “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Bryd hynny bydd deg o bobl o bob gwlad ac iaith yn gafael yn ymyl clogyn Iddew, a dweud, ‘Gad i ni fynd gyda chi. Dŷn ni wedi clywed fod Duw gyda chi!Croes’”
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity