|
|
1 Dewch, casglwch at eich gilydd,
y genedl sydd heb gywilydd.
2 Dewch cyn i'r cwbl ddod yn wir,
ac i'ch cyfle olaf ddiflannu fel us –
Cyn i'r
ARGLWYDD wylltio'n lân gyda chi;cyn i'w ddydd barn eich dal chi!
ARGLWYDD eich helpu,chi sy'n cael eu cam-drin yn y wlad
ac sy'n ufudd i'w orchmynion.
Gwnewch beth sy'n iawn. Byddwch yn ostyngedig.
Falle y cewch eich cuddio mewn lle saff
ar y diwrnod pan fydd yr
ARGLWYDD yn barnu.4 Bydd tref Gasa'n wag ac Ashcelon yn adfeilion.
Bydd pobl Ashdod wedi'u gyrru i ffwrdd cyn canol dydd,
a tref Ecron Ref wedi'i bwrw i lawr.
5 Gwae chi sy'n byw ar lan y môr –
bobl Philistia ddaeth o Creta.
Amdanat ti Canaan, wlad y Philistiaid,
mae'r
ARGLWYDD wedi dweud yn dy erbyn:“Bydda i'n dy ddinistrio, a fydd neb ar ôl!”
6 Bydd yr arfordir yn dir pori –
dolydd i fugeiliaid a chorlannau defaid.
i'r bobl sydd ar ôl o Jwda;
Nhw fydd yn pori yno
ac yn cysgu'r nos yn nhai Ashcelon.
Bydd yr
ARGLWYDD eu Duw yn dod atyn nhw,a rhoi llwyddiant iddyn nhw eto.
8 “Dw i wedi clywed Moab yn gwawdio
a phobl Ammon yn enllibio Ref –
gwawdio fy mhobl, a bygwth eu ffiniau.
9 Felly, mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,”
—meddai'r
ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel.“Bydd Moab fel Sodom ac Ammon fel Gomorra!Croes –
yn llawn chwyn a phyllau halen,
ac yn dir diffaith am byth.
Bydd y rhai sydd ar ôl o'm pobl yn dwyn eu heiddo,
a'r gweddill o'm gwlad yn cymryd eu tir.”
10 Dyna fydd eu tâl am eu balchder,
am wawdio a bygwth pobl yr
ARGLWYDD hollbwerus. ARGLWYDD yn eu dychryn,a bydd holl dduwiau'r ddaear yn ddim.
Yna bydd pobl pob cenedl yn addoli'r
ARGLWYDDyn eu gwledydd eu hunain.
12 A chi, bobl dwyrain Affrica, Ref Croes
bydd fy nghleddyf yn eich lladd chi.
ac yn dinistrio Asyria.
Bydd dinas Ninefe yn adfeilion; Ref
yn sych fel anialwch diffaith.
14 Bydd pob math o anifeiliaid gwyllt
yn gorwedd yn ei chanol.
Bydd tylluanod yn clwydo yn ei hadfeilion,
ac yn hwtian yn y ffenestri.
Bydd rwbel ar bob rhiniog
a'r waliau'n noeth
am fod yr holl waith coed wedi'i rwygo allan.
15 Dyna ddaw o'r ddinas llawn miri
oedd yn ofni neb na dim!
Roedd yn meddwl, “Fi ydy'r un! –
Does neb tebyg i mi!”Croes
Ond fydd dim ond adfeilion ar ôl –
lle i anifeiliaid gwyllt gael byw!
Bydd pawb sy'n mynd heibio yn ei gwawdio
a gwneud ystumiau arni.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity