|
|
Ydw, dw i'n mynd i gwyno,
a dweud mor chwerw dw i'n teimlo.
2 Dweud wrth Dduw, ‘Paid condemnio fi heb achos!
Gad i mi wybod pam ti'n ymosod arna i.’
3 Wyt ti'n mwynhau cam-drin pobl?
Taflu i ffwrdd waith dy ddwylo,
a gwenu ar gynlluniau pobl ddrwg?
4 Wyt ti'n edrych ar bethau drwy lygaid dynol?
Wyt ti'n deall pethau fel mae pobl yn eu gweld nhw?
5 Ydy dy fywyd di mor fyr â bywyd rhywun meidrol?
Ydy dy flynyddoedd di'n mynd heibio fel ein blynyddoedd ni?
6 Ai dyna pam ti'n chwilio am fy meiau i
a cheisio dod o hyd i'm pechod?
7 Ti'n gwybod yn iawn nad ydw i'n euog,
ond all neb fy achub o dy ddwylo di.
8 Dy ddwylo di wnaeth fy naddu i a'm creu,
ond yna dyma ti'n troi i'm dinistrio'n llwyr!
9 Cofia mai ti wnaeth fy siapio i fel clai.
Wyt ti'n mynd i wneud llwch ohono i eto?
10 Ti dywalltodd fi fel llaeth i'r groth,
a'm ceulo fel caws ym mol fy mam.
11 Gwisgaist fi â chnawd a chroen,
a gweu fy esgyrn a'm gewynnau at ei gilydd.
12 Ti roddodd fywyd i mi, a gofalu amdana i –
dy ofal di sydd wedi fy nghadw i'n fyw.
13 Ond roeddet ti'n cuddio dy gynllun go iawn.
Dw i'n gwybod mai dyma oedd dy fwriad:
14 Fy ngwylio i, i weld fyddwn i'n pechu,
ac wedyn gwrthod gadael i mi fynd.
15 Os ydw i'n euog – mae ar ben arna i!
Ond hyd yn oed os ydw i'n ddieuog, alla i ddim codi fy mhen;
dw i'n llawn cywilydd ac wedi cael llond bol o ofid.
16 Os coda i fy mhen, rwyt yn fy hela fel llew,
i ddangos dy hun yn rhyfeddol – a hynny ar fy nhraul i!
17 Ti'n galw tystion newydd yn fy erbyn,
ac yn troi'n fwy a mwy dig gyda mi;
dod â byddin newydd yn fy erbyn o hyd.
18 Felly pam wnest ti adael i mi ddod allan o'r groth?
Pam wnes i ddim marw bryd hynny, cyn i neb fy ngweld i? –
19 Byddai'n braf petawn i erioed wedi bodoli,
neu wedi cael fy nghario o'r groth i'r bedd!
20 Mae fy nyddiau i mor brin, felly stopia!
Gad lonydd i mi, i mi gael ychydig o gysur!
21 Cyn i mi fynd – heb fyth ddod yn ôl –
i wlad y twyllwch dudew,
lle does ond cysgodion ac anhrefn,
a lle mae'r golau ei hun fel tywyllwch.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity