|
|
2 “Mae'n rhaid ateb y malu awyr diddiwedd yma!
Ydy siarad di-baid yn gwneud rhywun yn iawn?
3 Wyt ti'n meddwl y bydd dy barablu di'n gwneud i ddynion dewi?
Oes neb yn mynd i dy geryddu di am dy siarad gwawdlyd?
4 Ti'n dweud, ‘Mae beth dw i'n gredu yn iawn,
a dw i'n lân yn dy olwg di, O Dduw.’
5 O na fyddai Duw yn dweud rhywbeth,
yn dy ateb di drosto'i hun,
6 ac yn dangos i ti beth ydy doethineb go iawn!
Mae dwy ochr i bob stori!
Byddet ti'n gweld fod Duw yn dy gosbi lai nag wyt ti'n ei haeddu!
7 Wyt ti'n meddwl dy fod yn deall hanfod Duw?
Wyt ti wedi darganfod ffiniau i allu'r Un sy'n rheoli popeth?
8 Mae'n uwch na'r nefoedd – beth alli di ei wneud?
Mae'n ddyfnach nag Annwn Ref – beth wyt ti'n ei wybod?
ac yn lletach na'r môr.
10 Os ydy Duw'n dod heibio ac arestio rhywun,
a mynd ag e i'r llys, pwy sy'n gallu ei rwystro?
11 Achos mae e'n nabod y rhai sy'n twyllo;
pan mae'n gweld drygioni, mae'n delio ag e.
12 Ond mae mor amhosib i ddyn dwl droi'n ddoeth
ag ydy hi i asyn gwyllt gael ei eni'n ddof!
ac estyn dy ddwylo ato mewn gweddi –
14 troi cefn ar y drwg rwyt ti wedi'i wneud,
a pheidio rhoi lle i anghyfiawnder –
15 yna byddi'n dal dy ben yn uchel, heb gywilydd,
ac yn gallu sefyll yn gadarn, heb ofn.
16 Byddi'n anghofio dy holl drybini –
bydd fel dŵr wedi mynd dan y bont.
17 Bydd bywyd yn brafiach na chanol dydd,
a'r adegau mwyaf tywyll yn olau fel y bore!
18 Byddi'n teimlo'n saff, am fod gen ti obaith;
yn edrych o dy gwmpas ac yn gorffwys yn ddiogel.
19 Byddi'n gorwedd i lawr, heb angen bod ofn;
a bydd llawer yn ceisio ennill dy ffafr.
20 Ond fydd pobl ddrwg yn gweld dim o hyn.
Does dim dianc iddyn nhw!
Eu hunig obaith fydd cael marw.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity