|
|
2 “Mae'n amlwg eich bod chi'n bobl mor bwysig!
Fydd doethineb ddim yn bod ar ôl i chi fynd!
3 Ond mae gen innau feddwl hefyd –
dw i ddim gwaeth na chi.
Mae pawb yn gwybod y pethau yna!
4 Ond dw i wedi troi'n destun sbort i'm ffrindiau –
ie fi, oedd yn galw ar Dduw ac yn cael ateb.
Fi, y dyn da a gonest – yn destun sbort!
5 Mae pobl gyfforddus eu byd yn wfftio fy helyntion –
‘Dyna sy'n digwydd pan mae dyn yn llithro!’
6 Ond mae lladron yn cael bywyd braf,
a'r rhai sy'n herio Duw yn byw yn saff –
ac yn cario eu duw yn eu dwylo!
‘Gofyn i'r anifeiliaid – byddan nhw'n dy ddysgu;
neu i'r adar – byddan nhw'n dweud wrthot ti.
8 Neu gofyn i'r ddaear – bydd hi'n dy ddysgu,
ac i bysgod y môr ddangos y ffordd i ti.
9 Pa un ohonyn nhw sydd ddim yn gwybod
mai Duw sydd wedi gwneud hyn?
10 Yn ei law e mae bywyd pob creadur
ac anadl pob person byw.
11 Ydy'r glust ddim yn profi geiriau
fel mae'r geg yn blasu bwyd?
12 Onid pobl mewn oed sy'n ddoeth,
a'r rhai sydd wedi byw'n hir sy'n deall?’
13 Duw ydy'r un doeth a chryf;
ganddo fe y mae cyngor a deall.
14 Does dim ailadeiladu beth mae e wedi'i chwalu;
na dianc i'r sawl mae e wedi'i garcharu.
15 Pan mae'n dal y glawogydd yn ôl, mae sychder yn dilyn;
pan mae e'n eu gollwng yn rhydd, maen nhw'n boddi'r tir.
16 Duw ydy'r un cryf a medrus;
mae'r un sydd ar goll a'r un sy'n camarwain
yn atebol iddo.
17 Mae'n arwain cynghorwyr i ffwrdd yn noeth,
ac yn gwneud i farnwyr edrych fel ffyliaid.
18 Mae'n tynnu gwisg brenhinoedd oddi arnyn nhw,
ac yn rhwymo gwisg caethwas amdanyn nhw.
19 Mae'n arwain offeiriaid i ffwrdd yn noeth,
ac yn bwrw swyddogion y deml i lawr.
20 Mae'n cau cegau'r cynghorwyr ffyddlon,
ac yn diddymu cyngor y dynion doeth.
21 Mae'n dwyn anfri ar dywysogion,
ac yn diarfogi'r rhyfelwr cryf.
22 Mae'n datguddio pethau dirgel y tywyllwch,
ac yn dod â phethau tywyll i'r golau.
23 Mae'n gwneud i wledydd dyfu, ac yna'n eu dinistrio;
mae'n estyn ffiniau'r gwledydd ac yna'n eu chwalu.
24 Mae'n gwneud i arweinwyr y bobl fynd o'u pwyll,
ac yn eu gadael i grwydro mewn anialwch heb lwybrau;
25 yn ymbalfalu heb olau yn y tywyllwch,
ac yn sigledig ar eu traed fel meddwon.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity