|
|
1 Byr ydy bywyd dyn, wedi'i eni o wraig,
ac mae ei ddyddiau yn llawn trafferthion.
2 Mae'n blodeuo ac yna'n gwywo;
mae'n diflannu fel cysgod, a byth yn aros.
3 Ai ar un felly wyt ti'n syllu?
Wyt ti am fy rhoi i ar brawf?
4 Pwy all wneud yr aflan yn lân?
Does neb!
5 Mae dyddiau rhywun wedi'u rhifo;
ti'n gwybod faint o fisoedd fydd e'n byw
ac wedi gosod ffin fydd e byth yn ei chroesi.
6 Edrych i ffwrdd a gad lonydd iddo,
fel gwas cyflog wedi gorffen ei waith.
7 Mae gobaith i goeden dyfu eto
ar ôl cael ei thorri i lawr.
Fydd ei blagur newydd ddim yn methu.
8 Er bod ei gwreiddiau'n hen yn y pridd,
a'i boncyff wedi dechrau pydru,
9 mae'n synhwyro dŵr ac yn blaguro eto,
a'i brigau'n tyfu fel petai newydd ei phlannu.
10 Ond mae'r dyn cryfaf yn marw heb gryfder;
mae'n anadlu am y tro olaf, ac mae wedi mynd.
neu afon yn llifo i ffwrdd ac yn sychu.
12 Mae pobl feidrol yn gorwedd a byth yn codi;
fydd dim deffro na chodi o'u cwsg
tra bydd yr awyr yn dal i fod.
13 O na fyddet ti'n fy nghuddio'n saff yn y bedd, Ref
a'm cadw o'r golwg nes i dy ddigofaint fynd heibio;
yna gosod amser penodol i'm cofio i eto.
14 Ar ôl i rywun farw, fydd e'n cael byw eto?
Ar hyd fy mywyd caled byddwn i'n disgwyl
i rywun ddod i'm rhyddhau.
15 Byddet ti'n galw, a byddwn innau'n dod;
byddet yn hiraethu am waith dy ddwylo.
16 Byddet ti'n gofalu amdana i bob cam,
heb wylio am fy mhechod o hyd.
17 Byddai pob trosedd o'r golwg mewn bag wedi'i selio,
a'm pechod wedi'i guddio dan orchudd.
18 Ond na, fel mae mynyddoedd yn cael eu herydu,
a chreigiau yn syrthio o'u lle;
19 neu fel mae dŵr yn gwneud carreg yn llyfn,
a glaw trwm yn golchi ymaith bridd y ddaear;
dyna sut rwyt ti'n lladd gobaith rhywun.
20 Ti'n ei drechu'n llwyr – mae ar ben arno!
Rwyt yn ei anffurfio ac yn ei anfon i ffwrdd.
21 Fydd e ddim yn gwybod os bydd ei feibion yn cael anrhydedd;
nac yn ymwybodol os cân nhw eu bychanu.
22 Dydy e'n teimlo dim ond ei boen ei hun
ac yn poeni dim am neb arall.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity