|
|
2 “Dw i wedi clywed hyn i gyd o'r blaen;
dych chi i gyd yn gysurwyr gwael!
3 Oes dim diwedd i'r malu awyr yma?
Beth sy'n dy gorddi di fod rhaid i ti gael y gair olaf?
4 Gallwn innau siarad â chi yr un fath
petaech chi yn fy lle i.
Gallwn i eich drysu chi â geiriau diddiwedd,
ac ysgwyd fy mhen arnoch chi.
5 Ond eich calonogi chi fyddwn i'n wneud;
eich cysuro chi, a lleddfu'r poen.
6 Ond alla i ddweud dim i leddfu fy mhoen fy hun;
ac os ydw i'n cadw'n dawel dydy'r poen ddim llai.
7 Y ffaith ydy, mae Duw wedi fy mlino'n lân!
Mae e wedi dinistrio fy nheulu.
dw i'n ddim ond croen ac esgyrn
ac mae hynny'n tystio yn fy erbyn i.
9 Mae e'n ddig, ac wedi fy rhwygo'n ddarnau;
ac mae'n ysgyrnygu ei ddannedd arna i.
Mae'n rhythu fel gelyn,
10 ac mae pobl yn chwerthinac yn gwneud sbort am fy mhen.
Maen nhw'n rhoi slap sarhaus i mi,
ac yn uno gyda'i gilydd yn fy erbyn.
11 Mae Duw wedi fy ngadael i'r annuwiol,
ac wedi fy nhaflu i ddwylo dynion drwg.
12 Roedd bywyd yn ddibryder, ond chwalodd y cwbl;
gafaelodd yn fy ngwar a'm malu'n ddarnau mân.
Mae wedi fy newis fel targed,
13 ac mae ei saethwyr o'm cwmpas.
Mae wedi trywanu fy mherfedd yn ddidrugaredd,
ac mae fy ngwaed Ref wedi'i dywallt ar lawr.
14 Dw i fel wal mae'n torri drwyddi dro ar ôl tro,
ac mae e'n rhuthro yn fy erbyn fel rhyfelwr.
15 Mae sachliain yn sownd i'm croen;
a chladdwyd pob nerth oedd gen i yn y llwch.
16 Ar ôl wylo'n chwerw mae fy wyneb yn goch,
ac mae cysgodion tywyll dan fy llygaid.
17 Ond dw i ddim wedi gwneud niwed i neb,
ac mae fy ngweddïau'n ddidwyll.
18 Ddaear, paid gorchuddio fy ngwaed!
Paid gadael i'm protest fynd o'r golwg!
19 Hyd yn oed nawr, mae gen i dyst yn y nefoedd;
mae Un all sefyll gyda mi yn yr uchelder!
20 Ond mae fy ffrindiau'n fy nirmygu,
tra dw i'n wylo dagrau o flaen Duw.
21 O na fyddai e'n dadlau achos creadur meidrol,
fel rhywun yn amddiffyn ei ffrind.
22 Does gen i ddim llawer o flynyddoedd i fynd
cyn y bydda i'n cerdded y llwybr di-droi'n-ôl.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity