|
|
2 “Pryd wyt ti'n mynd i stopio siarad fel yma?
Meddylia am funud, i ni gael cyfle i drafod.
3 Pam wyt ti'n ein trin ni fel anifeiliaid direswm,
ac yn ein hystyried ni'n dwp?
4 Cei rwygo dy hun yn ddarnau yn dy wylltineb,
ond a fydd trefn pethau yn cael ei newid er dy fwyn di?
Fydd y creigiau yn cael eu symud o'u lle?
5 Na, mae golau'r rhai drwg yn cael ei ddiffodd;
fydd ei fflam e ddim yn ailgynnau.
6 Mae'r golau yn ei babell yn gwanhau,
a'r lamp uwch ei ben yn diffodd.
7 Bydd ei gamau hyderus yn troi'n betrus,
a'i gynlluniau ei hun yn ei faglu.
8 Mae'n cerdded yn syth i'r rhwyd,
ac yn camu ar y fagl.
9 Mae ei droed yn cael ei dal mewn trap,
a'r fagl yn tynhau amdani.
10 Mae rhaff wedi'i chuddio ar y ddaear i'w ddal;
mae magl ar ei lwybr.
11 Mae'n cael ei ddychryn o bob cyfeiriad,
ac mae ofnau'n ei ddilyn i bobman.
12 Mae trychineb yn ysu amdano,
a dinistr yn disgwyl iddo lithro.
13 Mae ei groen yn cael ei fwyta gan afiechyd,
a'i gorff yn dioddef y farwolaeth fwya erchyll.
14 Mae'n cael ei lusgo allan o'i babell ddiogel,
a'i alw i ymddangos o flaen brenin braw.
15 Mae tân yn byw yn ei babell,
a brwmstan yn cael ei chwalu dros ei gartref.
16 Mae ei wreiddiau yn crino oddi tano,
a'i ganghennau'n gwywo uwch ei ben.
17 Mae pawb drwy'r wlad wedi anghofio amdano;
does dim sôn am ei enw yn unman.
18 Mae'n cael ei wthio o'r golau i'r tywyllwch,
a'i yrru i ffwrdd o'r byd.
19 Heb blant na pherthnasau i'w enw,
a neb ar ôl lle roedd yn byw.
20 Bydd pobl y gorllewin yn synnu at ei dynged,
a phobl y dwyrain wedi dychryn yn lân.
21 Ond dyna beth sy'n digwydd i'r rhai drwg;
felly mae hi ar bobl sydd ddim yn nabod Duw.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity