|
|
Dw i'n teimlo fod rhaid i mi ateb.
3 Dw i wedi gwrando arnat ti'n ceryddu a sarhau,
ac mae pob rheswm yn fy nghymell i ateb:
4 Wyt ti ddim yn sylweddoli? Ers cyn cof,
pan gafodd pobl eu gosod ar y ddaear gyntaf –
5 dydy pobl ddrwg ddim yn cael dathlu'n hir.
Fydd yr annuwiol ddim ond yn hapus dros dro.
nes i'w ben gyffwrdd y cymylau,
7 bydd yn pydru fel ei garthion, ac yn diflannu am byth!
Bydd y rhai oedd yn ei nabod yn gofyn, ‘Ble'r aeth e?’
8 Bydd wedi hedfan i ffwrdd fel breuddwyd wedi'i hanghofio;
fel gweledigaeth ddaeth yn y nos ac yna diflannu.
9 Fydd y bobl oedd yn sylwi arno ddim yn ei weld eto;
fydd e ddim yno, lle roedd yn amlwg o'r blaen.
10 Bydd rhaid i'w feibion dalu'n ôl i'r tlodion;
bydd ei blant yn gollwng gafael ar ei gyfoeth.
11 Yn ifanc, a'i esgyrn yn llawn egni,
bydd yn gorwedd yn y llwch heb ddim.
12 Er bod drygioni'n blasu'n felys iddo,
a'i fod yn ei gadw o'r golwg dan ei dafod,
a cheisio ei rwystro rhag darfod;
ac fel gwenwyn gwiber yn ei fol.
15 Bydd yn chwydu'r holl gyfoeth a lyncodd;
bydd Duw yn gwneud iddo gyfogi.
16 Roedd wedi sugno gwenwyn y wiber;
ac mae neidr arall yn ei frathu a'i ladd.
17 Fydd e ddim yn cael mwynhau'r nentydd,
yr afonydd a'r ffrydiau diddiwedd o fêl a chaws colfran.
18 Fydd e ddim yn gallu cadw'r holl elw a lyncodd;
fydd e ddim yn cael mwynhau ffrwyth ei fasnachu.
19 Pam? Am ei fod wedi sathru'r tlodion a'u gadael i ddioddef,
ac wedi dwyn tai wnaeth e ddim eu hadeiladu.
20 Ond dydy e byth yn cael ei fodloni,
a dydy ei chwant am fwy byth yn ei adael.
21 Does dim byd ar ôl iddo ei lowcio,
felly fydd ei lwyddiant ddim yn gallu para.
22 Pan fydd ar ben ei ddigon, mae argyfwng yn dod,
a phob math o helyntion yn dod ar ei draws.
bydd Duw yn anfon tân ei ddigofaint yn ei erbyn,
ac yn tywallt ei saethau i lawr arno.
24 Wrth iddo ddianc rhag yr arfau haearn
bydd saeth bres yn ei drywanu.
25 Wrth geisio ei thynnu allan o'i gefn,
a blaen y saeth o'i iau,
mae dychryn yn dod drosto.
26 Mae tywyllwch dudew yn disgwyl am ei drysorau,
a bydd tân heb ei gynnau gan berson dynol yn ei losgi'n ulw,
ac yn difa popeth sydd ar ôl yn ei babell.
27 Bydd y nefoedd yn dod â'i ddrygioni i'r golwg;
bydd y ddaear yn codi i'w gyhuddo.
28 Bydd ei gartref yn cael ei ysgubo i ffwrdd gan lifogydd,
gan y llifeiriant ar ddydd digofaint Duw.
dyma'r etifeddiaeth fydd Duw yn ei rhoi iddyn nhw.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity