|
|
2 “O, ti'n gymaint o help i'r gwan!
Ti wedi cynnal braich yr un sydd heb nerth!
3 Mae dy gyngor mor werthfawr i rywun sydd mor ddwl!
Ti wedi bod mor hael yn rhannu dy ddoethineb!
4 Pwy wnaeth ddysgu hyn i gyd i ti?
Pwy sy'n dy ysbrydoli i siarad fel yma?
5 Mae'r meirw yn crynu o flaen Duw –
pawb sy'n byw yn y byd dan y dŵr.
6 Mae Annwn Ref yn noeth o'i flaen,
ac Abadon Ref heb orchudd i'w guddio.
7 Duw sy'n lledu'r sêr dros yr anhrefn,
ac yn hongian y ddaear uwch y gwagle.
8 Mae'n rhwymo'r dŵr yn ei gymylau trwchus,
ond does yr un yn byrstio dan y pwysau.
9 Mae'n cuddio wyneb y lleuad llawn
drwy ledu ei gymylau drosto.
10 Mae'n marcio'r gorwel ar wyneb y moroedd,
fel terfyn rhwng y golau a'r tywyllwch.
11 Mae colofnau'r nefoedd yn crynu,
wedi'u dychryn gan ei gerydd.
trawodd fwystfil y môr Ref i lawr drwy ei ddoethineb.
13 Mae ei wynt yn clirio'r awyr;
trywanodd y sarff wibiog â'i law.
14 A dydy hyn prin yn cyffwrdd ei allu!
Mae fel rhyw sibrydiad bach tawel.
Pwy all ddychmygu holl rym ei nerth?”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity