|
|
a lle i aur gael ei buro.
2 Mae haearn yn cael ei dynnu o'r ddaear,
a chopr yn cael ei doddi o'r garreg.
3 Mae dynion yn mynd â golau i'r tywyllwch,
ac yn chwilio ym mhob cilfach
am y mwynau sydd yn y tywyllwch dudew.
4 Maen nhw'n agor siafft ymhell oddi wrth bawb,
mewn lleoedd nad oes neb wedi cerdded,
ac yn siglo wrth hongian ymhell o olwg pobl.
5 Ar y ddaear mae bwyd yn tyfu,
ond islaw mae tân yn ei thoddi.
6 Mae saffir i'w gael yn y cerrig,
ac aur yn ei llwch hefyd.
7 All aderyn rheibus ddim mynd ato;
all llygad barcud ddim gweld y llwybr yno.
8 Fu anifeiliaid rheibus ddim yn troedio yno;
does dim llew wedi pasio heibio.
9 Mae chwarelwyr yn taro'r graig galed,
ac yn symud sylfeini'r mynyddoedd.
10 Maen nhw'n agor siafftiau yn y creigiau,
ac yn edrych am bethau gwerthfawr.
11 Maen nhw'n archwilio ble mae afonydd yn tarddu
a dod â'r hyn oedd o'r golwg i'r golau.
12 Ond ble mae dod o hyd i ddoethineb?
Ble mae deall i'w gael?
13 Does neb yn gwybod ble mae;
dydy e ddim i'w gael ar dir y byw.
14 Mae'r dyfnder yn dweud, ‘Dydy e ddim yma,’
a'r môr yn dweud, ‘Dydy e ddim gen i.’
15 Does dim modd ei brynu gyda bar o aur,
na thalu amdano drwy bwyso arian.
16 Ellir ddim ei brynu gydag aur Offir, Ref
nac onics gwerthfawr, na saffir chwaith.
17 Dydy aur na grisial ddim cystal,
ac ni ellir ffeirio llestri o aur pur amdano.
18 Dydy cwrel a grisial ddim gwerth sôn amdanyn nhw;
mae pris doethineb yn uwch na pherlau.
19 Dydy topas Affrica Ref yn werth dim o'i gymharu,
a dydy aur pur ddim yn ddigon i'w brynu.
20 O ble mae doethineb yn dod?
Ym mhle mae deall i'w gael?
21 Mae wedi'i guddio oddi wrth bopeth byw,
hyd yn oed yr adar yn yr awyr.
22 Mae Abadon Ref a Marwolaeth yn dweud,
‘Dŷn ni ond wedi clywed rhyw si amdano.’
23 Dim ond Duw sy'n gwybod sut i'w gyrraedd;
mae e'n gwybod o ble mae'n dod.
24 Mae e'n gweld i bedwar ban byd;
mae'n gweld popeth sydd dan yr haul.
25 Pan benderfynodd pa mor gryf ydy'r gwynt,
a mesur maint y dyfroedd;
26 pan osododd reolau i'r glaw
a llwybr i'r mellt a'r taranau,
27 gwelodd ddoethineb, a mesur ei werth;
ei sefydlu a'i archwilio'n ofalus.
28 A dwedodd wrth y ddynoliaeth:
‘Parchu'r
ARGLWYDD – dyna sy'n ddoeth;peth call ydy troi cefn ar ddrygioni.’”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity