|
|
1 Ond bellach mae hogiau ifanc
yn gwenu'n wawdlyd arna i,
rhai y byddwn i'n rhoi mwy o sylw
i'm cŵn defaid Ref nag i'w tadau nhw!
2 Dynion rhy wan i fod o iws i mi –
dynion wedi colli pob cryfder;
3 dynion sy'n denau o angen a newyn,
yn crwydro'r tir sych,
a'r diffeithwch anial yn y nos.
4 Maen nhw'n casglu planhigion gwyllt,
a gwreiddiau'r banadl i gadw'n gynnes;
5 dynion wedi'u gyrru allan o gymdeithas,
a phobl yn gweiddi arnyn nhw fel lladron.
6 Maen nhw'n byw ar waelod ceunentydd,
mewn tyllau yn y ddaear ac ogofâu.
7 Maen nhw'n brefu fel anifeiliaid yng nghanol y chwyn,
ac yn swatio gyda'i gilydd dan y llwyni.
wedi'u gyrru i ffwrdd o gymdeithas.
9 Ond bellach dw i'n gocyn hitio iddyn nhw;
ac yn ddim byd ond testun sbort.
10 Maen nhw'n fy ffieiddio i, ac yn cadw draw oddi wrtho i;
ac yn poeri'n fy wyneb heb feddwl ddwywaith.
11 Am fod Duw wedi datod llinyn fy mwa a'm poenydio i,
maen nhw'n ymosod arna i'n ddi-stop.
12 Fel gang o lanciau'n codi twrw ar un ochr,
i'm bwrw oddi ar fy nhraed;
maen nhw'n codi rampiau i warchae a dinistrio.
13 Maen nhw'n sefyll ar fy llwybr i'm rhwystro,
ac yn llwyddo i'm llorio,
heb angen unrhyw help.
14 Fel byddin yn llifo drwy fwlch llydan,
yn rholio i mewn wrth i'r waliau syrthio.
15 Mae dychryn yn dod drosto i,
fel gwynt yn ysgubo fy urddas i ffwrdd;
mae'r gobaith o ddianc wedi diflannu fel cwmwl.
16 Bellach mae fy enaid yn drist,
a dyddiau dioddef wedi gafael ynof fi.
17 Mae poenau yn fy esgyrn drwy'r nos,
a gewynnau'r corff yn cnoi'n ddi-baid.
18 Mae Duw wedi gafael yn dynn yn fy nillad,
a'm tagu gyda choler fy nghrys.
19 Mae e wedi fy nhaflu i'r mwd;
dw i'n ddim byd ond llwch a lludw.
20 O Dduw, dw i'n gweiddi am dy help, ond does dim ateb;
dw i'n sefyll o dy flaen, ond dwyt ti'n cymryd dim sylw.
21 Rwyt ti wedi troi mor greulon tuag ata i;
a'm taro mor galed ag y medri.
22 Ti wedi fy nghodi ar y corwynt;
a'm taflu o gwmpas yn y storm.
23 Dw i'n gwybod mod i'n mynd i farw,
a mynd i'r lle sydd wedi'i bennu i bopeth byw.
24 Wnes i erioed godi fy llaw i daro
rhywun oedd yn galw am help yn ei drybini!
25 Rôn i'n wylo dros y rhai oedd yn cael amser caled,
ac yn torri fy nghalon dros y tlawd.
26 Ond wrth ddisgwyl y da, ddaeth dim ond drwg;
wrth edrych am olau, daeth tywyllwch.
27 Dw i'n corddi y tu mewn i mi,
wrth wynebu dydd ar ôl dydd o ddioddef.
28 Mae fy nghroen wedi duo, ond nid yn yr haul;
dw i'n sefyll yn y sgwâr ac yn pledio am help.
29 Dw i'n swnio fel brawd i'r siacal,
neu gymar i'r estrys.
30 Mae fy nghroen wedi tywyllu,
a'm corff drwyddo yn llosgi gan wres.
31 Felly, mae fy nhelyn yn canu alaw drist,
a'm ffliwt yn cyfeilio i'r rhai sy'n galaru.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity