|
|
“Dyn ifanc dw i, a dych chi i gyd yn hen;
felly dw i wedi bod yn cadw'n dawel
ac yn rhy swil i ddweud be dw i'n feddwl.
7 Dwedais wrthof fy hun, ‘Gad i'r dynion hŷn siarad;
rho gyfle i'r rhai sydd â phrofiad blynyddoedd lawer i ddangos doethineb.’
anadl yr Un sy'n rheoli popeth sy'n gwneud iddo ddeall.
9 Nid dim ond pobl mewn oed sy'n ddoeth,
does dim rhaid bod yn hen i farnu beth sy'n iawn.
10 Felly dw i'n dweud, ‘Gwrandwch arna i,
a gadewch i mi ddweud be dw i'n feddwl.’
11 Dw i wedi bod yn disgwyl i chi orffen siarad,
ac yn gwrando'n ofalus ar eich dadleuon chi,
wrth i chi drafod y pethau hyn.
fod dim un ohonoch chi'n gallu ateb Job,
a gwrthbrofi'r hyn mae wedi'i ddweud.
13 A pheidiwch dweud, ‘Y peth doeth i'w wneud ydy hyn –
Gadael i Dduw ei geryddu, nid dyn!’
14 Dydy Job ddim wedi dadlau gyda fi eto,
a dw i ddim yn mynd i'w ateb gyda'ch dadleuon chi.
15 Mae'r tri yma mewn sioc, heb ateb bellach;
does ganddyn nhw ddim byd ar ôl i'w ddweud.
16 Oes rhaid i mi ddal i ddisgwyl, a nhw'n dawel?
Maen nhw wedi stopio dadlau, a ddim yn ateb.
17 Mae fy nhro i wedi dod i ddweud fy mhwt,
cyfle i mi ddweud be dw i'n feddwl.
18 Mae gen i gymaint i'w ddweud,
alla i ddim peidio dweud rhywbeth.
19 Dw i'n teimlo fel potel o win sydd angen ei hagor;
fel poteli crwyn newydd sydd ar fin byrstio.
20 Mae'n rhaid i mi siarad, does gen i ddim dewis.
Gadewch i mi ddweud rhywbeth, i'w ateb.
21 Dw i ddim yn mynd i gadw ochr neb,
na seboni drwy roi teitlau parchus i bobl;
22 dw i ddim yn gwybod sut i seboni –
petawn i'n gwneud hynny,
byddai'r Duw a'm gwnaeth i yn fy symud yn ddigon buan!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity