|
|
2 “Wyt ti'n meddwl ei bod hi'n iawn
i ti ddweud, ‘Fi sy'n iawn, nid Duw’?
3 A dweud wrtho, ‘Pa fantais ydy e i ti?’
a ‘Beth ydw i'n ennill o beidio pechu?’
ti, a dy ffrindiau gyda ti.
5 Edrych i fyny i'r awyr, ac ystyria;
edrych ar y cymylau ymhell uwch dy ben.
6 Os wyt ti'n pechu, sut mae hynny'n effeithio ar Dduw?
Os wyt ti'n troseddu dro ar ôl tro,
beth wyt ti'n ei wneud iddo fe?
7 Os wyt ti'n gwneud beth sy'n iawn,
sut mae hynny'n helpu Duw?
Beth mae e'n ei dderbyn gen ti?
8 Pobl eraill sy'n diodde pan wyt ti'n gwneud drwg,
neu'n cael eu helpu pan wyt ti'n gwneud beth sy'n iawn.
9 Mae pobl sy'n cael eu gorthrymu yn gweiddi am help,
ac yn galw am rywun i'w hachub o afael y rhai pwerus.
10 Ond does neb yn dweud, ‘Ble mae Duw, fy Nghrëwr,
sy'n rhoi testun cân i mi pan mae'n nos dywyll?
11 Ble mae'r Duw sy'n dysgu mwy i ni na'r anifeiliaid,
ac sy'n ein gwneud ni'n fwy doeth na'r adar?’
12 Ydyn, mae'r bobl yn gweiddi, ond dydy e ddim yn ateb,
am eu bod nhw'n bobl ddrwg a balch.
13 Dŷn nhw ddim o ddifrif – a dydy Duw ddim yn gwrando;
dydy'r Un sy'n rheoli popeth yn cymryd dim sylw.
14 Felly, pam gwrando arnat ti, sy'n cwyno nad wyt yn ei weld,
fod dy achos o'i flaen, a dy fod yn aros am ymateb?
15 A hyd yn oed yn honni nad ydy e'n cosbi yn ei ddig,
ac nad ydy e'n poeni dim am bechod!
mae'n mwydro ymlaen heb ddeall dim.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity