|
|
2 “Bydd yn amyneddgar â fi am ychydig,
mae gen i fwy i'w ddweud ar ran Duw.
3 Dw i wedi derbyn gwybodaeth o bell,
a dw i am ddangos mai fy Nghrëwr sy'n iawn.
4 Wir i ti, heb air o gelwydd,
mae'r un sydd o dy flaen di wedi deall y cwbl.
5 Mae Duw yn rymus, ond dydy e ddim yn ddirmygus;
mae'n rymus ac yn gwybod beth mae'n ei wneud.
6 Dydy e ddim yn gadael i bobl ddrwg fyw;
mae'n sicrhau cyfiawnder i'r rhai sy'n dioddef.
7 Mae e'n gofalu am y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.
Mae'n eu hanrhydeddu nhw,
a'u gosod ar orseddau fel brenhinoedd.
8 Ond os ydyn nhw'n gaeth mewn cyffion,
wedi'u rhwymo â rhwydi gorthrwm,
9 mae e'n dangos iddyn nhw beth wnaethon nhw
i droseddu, a bod mor haerllug.
10 Mae e'n gwneud iddyn nhw wrando drwy eu disgyblu,
a dweud wrthyn nhw am droi cefn ar eu drygioni.
11 Os gwnân nhw wrando a bod yn ufudd iddo,
byddan nhw'n llwyddo am weddill eu bywydau,
ac yn cael blynyddoedd o hapusrwydd.
12 Ond os na fyddan nhw'n gwrando,
byddan nhw'n croesi afon marwolaeth,
ac yn darfod heb ddeall dim.
13 Mae pobl annuwiol yn achosi dig;
dŷn nhw ddim yn gweiddi am help pan mae Duw'n eu disgyblu.
ar ôl treulio'u bywydau gyda phuteiniaid teml.
15 Ond mae Duw'n defnyddio dioddefaint i achub pobl,
ac yn defnyddio poen i'w cael nhw i wrando.
16 Y gwir ydy, mae am dy ddenu di oddi wrth ddibyn gofid,
o'r gornel gyfyng i le agored;
at fwrdd yn llawn o fwyd blasus.
17 Ond rwyt ti'n wynebu barn Duw ar bobl ddrwg,
a does dim dianc rhag ei farn gyfiawn.
18 Gwylia rhag i ti gael dy hudo gan gyfoeth,
ac i faint y breib dy arwain ar gyfeiliorn.
19 Fyddai dy holl gyfoeth o unrhyw help yn dy helbul?
Na fyddai, na dy holl ddylanwad chwaith!
pan mae pobl yn cael eu cipio i ffwrdd.
21 Gwylia rhag troi at y drwg –
dyna pam ti'n dioddef ac yn cael dy brofi.
22 Edrych, mae nerth Duw yn aruthrol.
Pwy sy'n athro tebyg iddo?
23 Pwy sy'n dweud wrtho beth i'w wneud?
Pwy sy'n gallu dweud, ‘Ti wedi gwneud peth drwg’?
24 Cofia mai dy le di ydy canmol ei waith,
sef y rheswm pam mae pobl yn ei foli ar gân.
25 Mae'r ddynoliaeth i gyd wedi gweld ei waith,
mae pobl feidrol yn syllu arno o bell.
26 Ydy, mae Duw yn fawr – y tu hwnt i'n deall ni;
does dim modd cyfri hyd ei oes e!
sy'n diferu'n law mân fel tarth.
28 Mae'r cymylau'n tywallt y glaw,
mae'n arllwys yn gawodydd ar y ddaear.
29 Oes rhywun yn deall sut mae'r cymylau'n lledu,
a'r taranau sydd yn ei bafiliwn?
30 Edrych, mae'r mellt yn lledu o'i gwmpas,
ac yn goleuo gwaelod y môr.
31 Dyma sut mae'n barnu'r cenhedloedd,
ac yn rhoi digonedd o fwyd iddyn nhw.
32 Mae'n dal y mellt yn ei ddwylo,
ac yn gwneud iddyn nhw daro'r targed.
33 Mae sŵn ei daranau'n dweud ei fod yn dod
mewn storm, yn angerdd ei lid.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity