|
|
1 Ac ydy, mae fy nghalon i'n crynu
ac yn colli curiad.
2 Gwrandwch ar ei lais yn rhuo,
ac ar ei eiriau'n atseinio!
3 Mae ei fellt yn fflachio drwy'r awyr –
ac yn mynd i ben draw'r byd.
a'i lais cryf yn taranu;
mae'r mellt wedi hen ddiflannu pan glywir ei lais.
5 Mae sŵn llais Duw'n taranu yn rhyfeddol!
Ac mae'n gwneud pethau gwyrthiol, tu hwnt i'n deall ni.
6 Mae'n dweud wrth yr eira, ‘Disgyn ar y ddaear!’
neu wrth y glaw trwm, ‘Arllwys i lawr!’
7 Mae'n stopio pawb rhag gweithio,
mae pobl yn gorfod sefyll yn segur.
8 Mae anifeiliaid yn mynd i gysgodi,
ac i guddio yn eu gwâl.
9 Mae'r corwynt yn codi o'r de,
ac oerni o wyntoedd y gogledd.
ac mae'r llynnoedd yn rhewi'n galed.
11 Mae'n llenwi'r cymylau trwchus â gwlybaniaeth
ac yn anfon mellt ar wasgar o'r cymylau.
12 Mae'n gwneud i'r cymylau droi a throelli,
ac yn gwneud beth mae Duw'n ei orchymyn
dros wyneb y ddaear i gyd.
13 Mae'n gwneud hyn naill ai i gosbi'r tir,
neu i ddangos ei gariad ffyddlon.
aros i ystyried y pethau rhyfeddol mae Duw'n eu gwneud.
15 Wyt ti'n deall sut mae Duw'n trefnu'r cwbl,
ac yn gwneud i'r mellt fflachio o'r cymylau?
16 Wyt ti'n deall sut mae'r cymylau'n aros yn yr awyr –
gwaith rhyfeddol Duw, sy'n deall popeth yn berffaith?
17 Ti, sy'n chwysu yn dy ddillad
pan mae'n glòs ac yn boeth dan wynt y de.
18 Alli di helpu Duw i ledu'r awyr,
sy'n galed fel drych metel?
19 Dwed wrthon ni beth i'w ddweud wrtho!
Dŷn ni ddim yn gwybod, mae hi'n dywyll arnon ni.
20 Fyddwn i ddim yn meiddio gofyn am gael siarad!
Ydy dyn meidrol yn gofyn am gael ei lyncu ganddo?
21 Does neb yn gallu edrych ar yr haul
pan mae'n disgleirio yn yr awyr,
ar ôl i'r gwynt ddod a chlirio'r cymylau i ffwrdd.
22 Fel pelydrau euraid yn llewyrchu o'r gogledd,
mae ysblander Duw yn syfrdanol!
23 Mae'r Un sy'n rheoli popeth y tu hwnt i'n cyrraedd ni;
mae ei nerth mor aruthrol fawr!
Mae'n gyfiawn ac yn gwneud beth sy'n iawn,
a dydy e ddim yn gorthrymu neb.
24 Dyna pam mae pobl yn ei ofni.
Dydy e'n cymryd dim sylw
o'r rhai sy'n ddoeth yn eu golwg eu hunain.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity