|
|
1 Wyt ti'n gwybod pryd mae geifr mynydd yn cael eu geni?
Wyt ti wedi gwylio'r ceirw yn esgor ar rai bach?
2 Wyt ti wedi cyfri'r misoedd tra maen nhw'n disgwyl?
Wyt ti'n gwybod pryd yn union maen nhw'n geni rhai bach,
3 yn crymu wrth roi genedigaeth,
ac yn bwrw eu brych?
4 Mae'r rhai bach yn tyfu'n iach, allan yng nghefn gwlad;
yna'n gadael y fam, a byth yn dod yn ôl.
5 Pwy wnaeth ollwng yr asyn gwyllt,
a datod ei ffrwyn iddo fynd yn rhydd?
6 Rhoi'r anialwch yn gartref iddo,
a'r tir diffaith yn lle iddo fyw.
ac yn fyddar i floedd unrhyw feistr.
8 Mae'n crwydro'r mynyddoedd am borfa,
yn chwilio am laswellt i'w fwyta.
9 Fyddai'r ych gwyllt yn fodlon gweithio i ti,
ac aros dros nos wrth gafn bwydo?
10 Alli di ei gadw yn y gŵys gyda rhaff?
Fydd e'n dy ddilyn ac yn trin y tir?
11 Alli di ddibynnu arno gan ei fod mor gryf,
a gadael iddo wneud dy waith caled yn dy le?
12 Fyddet ti'n disgwyl iddo i ddod yn ôl
a chasglu dy rawn i'r llawr dyrnu?
13 Mae adenydd yr estrys yn ysgwyd yn llawen;
ond does ganddi ddim plu i hedfan fel y garan!
14 Mae hi'n dodwy ei hwyau ar lawr,
ac yn eu gadael i gynhesu ar y tywod,
15 heb feddwl y gallen nhw gael eu sathru,
ac y gallai anifail gwyllt eu malu dan draed.
16 Mae'n trin ei chywion yn greulon,
fel petaen nhw ddim yn perthyn iddi;
dydy hi'n poeni dim y gallai ei llafur fod yn ofer.
17 Gadawodd Duw hi heb ddoethineb,
roddodd e ddim mymryn o ddeall iddi.
18 Ond pan mae'n codi a dechrau rhedeg,
mae'n chwerthin am ben y ceffyl a'i farchog!
19 Ai ti sy'n rhoi cryfder i geffyl?
Ai ti wisgodd ei wddf â'r mwng?
20 Ai ti sy'n gwneud iddo neidio fel y locust,
a chreu dychryn wrth weryru?
21 Mae'n curo llawr y dyffryn â'i garnau,
ac yn rhuthro'n frwd i'r frwydr.
22 Does ganddo ddim ofn; does dim yn ei ddychryn;
dydy e ddim yn cilio oddi wrth y cleddyf.
23 Mae llond cawell o saethau'n chwyrlïo heibio iddo,
a'r waywffon a'r cleddyf yn fflachio.
24 Mae'n llawn cynnwrf, ac yn carlamu'n wyllt;
mae'n methu aros yn llonydd pan mae'r corn hwrdd Ref yn seinio.
25 Mae'n synhwyro'r frwydr o bell;
mae'n gweryru wrth glywed y corn hwrdd,
a gwaedd swyddogion yn bloeddio gorchmynion.
26 Ai dy ddoethineb di sy'n gwneud i'r hebog hedfan,
a lledu ei adenydd i droi tua'r de?
27 Ai dy orchymyn di sy'n gwneud i'r fwltur hofran,
a gosod ei nyth ar y creigiau uchel?
28 Mae'n byw ar y graig, lle mae'n treulio'r nos;
mae'r clogwyn yn gaer ddiogel iddo.
29 Oddi yno mae'n chwilio am fwyd,
ac yn syllu arno o bell;
30 bydd ei gywion yn llowcio gwaed.
Ble mae corff marw, mae'r fwltur yno.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity