|
|
2 “Ydy'r un sy'n dadlau gyda'r Hollalluog am ddal i'w gywiro?
Beth am i ti sy'n beirniadu Duw roi ateb i mi!”
3 A dyma Job yn ateb:4 “Mae'n wir, dw i'n neb. Beth alla i ddweud?
Dw i'n mynd i gadw'n dawel.
5 Dw i wedi siarad gormod, ac alla i ddim ateb eto.
Dw i am ddweud dim mwy.”
6 Yna dyma'r ARGLWYDD yn ateb Job o'r storm ac yn dweud:Fi fydd yn gofyn y cwestiynau, a gei di ateb.
8 Wyt ti'n gwadu fy mod i'n Dduw cyfiawn?
Wyt ti'n fy nghondemnio i er mwyn profi mai ti sy'n iawn?
Ydy dy lais di'n gallu taranu fel fy llais i?
10 Os felly, addurna dy hun ag anrhydedd a mawrhydi.
Gwisga dy hun ag ysblander ac urddas.
11 Dangos i bawb mor ddig wyt ti;
dos ar ôl y bobl falch, a'u rhoi nhw yn eu lle.
12 Dos ar ôl y bobl falch, a'u cywilyddio nhw;
sathra'r rhai drwg yn y fan a'r lle!
a'u cloi nhw yn y bedd.
dy fod ti'n ddigon cryf i achub dy hun!
15 Edrych ar y Behemoth, a greais i fel y creais i ti;
mae e'n bwyta glaswellt fel ych.
16 Edrych mor gryf ydy ei gluniau,
ac ar gryfder cyhyrau ei fol.
17 Mae'n codi ei gynffon fel coeden dal;
mae gewynnau ei gluniau wedi'u gweu i'w gilydd.
18 Mae ei esgyrn fel pibellau pres,
a'i goesau fel barrau haearn.
19 Dyma'r creadur cryfaf a greodd Duw;
dim ond ei Grëwr all dynnu'r cleddyf a'i ladd.
20 Y bryniau sy'n rhoi bwyd iddo,
lle mae'r holl anifeiliaid gwyllt eraill yn chwarae.
21 Mae'n mynd i orwedd dan y llwyn deiliog,
o'r golwg yng nghanol brwyn y gors.
22 Mae'r llwyn yn ei guddio dan ei gysgod,
a'r coed helyg sydd o'i gwmpas ger y nant.
23 Dydy e ddim yn dychryn pan mae'r afon wedi chwyddo;
mae'n ddigyffro wrth i ddŵr yr Iorddonen ruthro drosto.
24 All unrhyw un ei ddal tra mae'n gwylio,
neu wthio bachyn drwy ei drwyn?
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity