|
|
2 “Petai fy rhwystredigaeth yn cael ei phwyso,
a'm helyntion yn cael eu rhoi mewn clorian,
3 bydden nhw'n drymach na holl dywod y môr!
Dim syndod fy mod i wedi siarad yn fyrbwyll!
4 Mae saethau'r Duw Hollalluog yn fy nghorff,
ac mae fy ysbryd wedi sugno eu gwenwyn.
Mae'r dychryn mae Duw yn ei achosi
fel rhes o filwyr yn ymosod arna i.
5 Ydy asyn gwyllt yn nadu pan mae ganddo laswellt?
Ydy ych yn brefu pan mae ganddo borfa?
6 Ydy bwyd di-flas yn cael ei fwyta heb halen?
Oes blas ar y gwynnwy?
7 Dw i'n gwrthod eu cyffwrdd nhw;
maen nhw'n gwneud i mi fod eisiau chwydu.
8 O na fyddwn i'n cael fy nymuniad,
a bod Duw yn rhoi i mi beth dw i eisiau.
9 O na fyddai Duw yn fodlon fy lladd fel pryf,
drwy godi ei law a'm taro i lawr!
10 Faint bynnag o boen fyddai'n rhaid i mi ei ddiodde,
byddai'n gysur i mi
fy mod heb wrthod geiriau'r Un Sanctaidd.
11 Does gen i mo'r cryfder i ddal ati;
beth ydy'r pwynt o aros yn fyw?
12 Oes gen i gryfder fel y graig?
Oes gen i gnawd fel pres?
13 Y gwir ydy, does gen i ddim nerth o gwbl!
Alla i wneud dim i helpu fy hunan.
14 Dylai rhywun sy'n anobeithio gael ffrindiau sy'n ffyddlon,
hyd yn oed os ydy e'n troi ei gefn ar yr Un sy'n rheoli popeth;
15 ond alla i ddim dibynnu o gwbl arnoch chi, frodyr!
Dych chi fel sychnant lle roedd dŵr yn gorlifo ar un adeg,
16 fel ffrwd sy'n dywyll o dan rew
ac wedi'i chuddio o dan eira;
17 ond cyn gynted ag y mae'n meirioli mae'n sychu
– yn y gwres tanbaid mae hi'n diflannu.
18 Mae carafanau camelod yn gadael eu llwybr,
ac yn troi am y tir anial, ond mae'r ffrwd wedi mynd.
19 Mae carafanau Tema yn chwilio am y dŵr,
a marchnatwyr Sheba Ref yn gobeithio dod o hyd iddo.
20 Maen nhw mor hyderus, ond byddan nhw'n cael eu siomi;
byddan nhw'n cyrraedd y lle, ac yn sefyll yno'n syfrdan.
21 Ac felly dych chi! Fel nant wedi sychu, yn dda i ddim!
Dych chi'n gweld fy helynt, ac yn cael eich dychryn.
22 Ydw i wedi dweud, ‘Rhowch rodd i mi!’
neu, ‘Talwch gildwrn drosto i o'ch cyfoeth’?
23 ‘Achubwch fi o afael y gelyn!’
neu, ‘Rhyddhewch fi o afael y gormeswyr!’?
24 Dangoswch i mi beth wnes i, a bydda i'n tewi;
esboniwch i mi beth wnes i o'i le!
25 Mae geiriau gonest yn gallu bod yn greulon!
Ond beth mae'ch cerydd chi yn ei brofi?
26 Ydy hi'n iawn i chi geryddu â'ch geiriau
wrth gyhuddo dyn diobaith o siarad gwag?
27 Mae fel gamblo gyda bywyd yr amddifad,
neu roi bywyd eich cyfaill ar ocsiwn!
28 Nawr dewch! Edrychwch arna i!
Fyddwn i'n dweud celwydd yn eich wynebau chi?
29 Dewch! Plîs peidiwch bod mor annheg!
Meddyliwch eto! Mae fy ngonestrwydd i yn y fantol.
30 Na, dw i ddim yn dweud celwydd,
a dw i'n gwybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity