|
|
1 Pam mae bywyd dyn ar y ddaear mor galed?
Mae ei ddyddiau fel dyddiau gwas cyflog –
2 fel caethwas yn dyheu am gysgod,
neu was cyflog yn disgwyl am ei dâl.
3 Mis ar ôl mis o fyw dibwrpas,
a nosweithiau diddiwedd o dristwch.
4 Pan dw i'n gorwedd i lawr, dw i'n meddwl,
‘Pryd dw i'n mynd i fedru codi?’
Mae'r nos yn llusgo'n araf,
a dw i'n troi a throsi nes iddi wawrio.
5 Mae briwiau a chrachod dros fy nghorff i gyd;
mae'r croen wedi cracio ac yn casglu.
6 Mae dyddiau fy mywyd wedi hedfan fel gwennol gwehydd,
ac yn dod i ben mewn anobaith.
7 O Dduw, cofia mai anadl ydy fy mywyd!
Wna i ddim profi pleser byth eto.
8 Fydd y llygaid sy'n edrych arna i'n fy ngweld i ddim mwy;
bydda i wedi diflannu mewn chwinciad.
9 Fel cwmwl yn chwalu ac yn diflannu,
dydy'r un sy'n mynd i'r bedd byth yn dod yn ôl i fyny;
10 fydd e byth yn mynd adre eto;
a fydd y lle roedd yn byw ddim yn ei gofio.
11 Felly, dw i ddim am gadw'n dawel!
Dw i'n mynd i rannu fy ngwewyr meddwl;
dw i'n teimlo'n chwerw, a dw i'n mynd i gwyno.
12 Ai'r môr ydw i, neu anghenfil y dyfroedd, Ref
i ti orfod fy nghadw yn gaeth?
13 Pan dw i'n meddwl, ‘Bydd mynd i'r gwely'n gysur,
a gorffwys yn gwneud i mi deimlo'n well,’
14 ti'n fy nychryn â breuddwydion,
ac yn codi braw â hunllefau.
15 Byddai'n well gen i gael fy stranglo;
mae marwolaeth yn well na bodolaeth.
does gen i ddim eisiau byw ddim mwy.
Gad lonydd i mi, mae fy nyddiau'n mynd heibio fel mwg.
17 Beth ydy person dynol, i ti boeni amdano,
a rhoi cymaint o sylw iddo?
18 Ti'n ei archwilio bob bore,
ac yn ei brofi bob munud.
19 Wyt ti byth yn mynd i edrych i ffwrdd?
Rho gyfle i mi lyncu fy mhoeryn!
20 Os dw i wedi pechu, beth dw i wedi'i wneud i ti,
ti Wyliwr pobl?
Pam dewis fi yn darged?
Ydw i wedi troi'n gymaint o faich i ti?
21 Pam wnei di ddim maddau i mi am droseddu,
a chael gwared â'm pechod?
Achos bydda i'n gorwedd yn farw cyn pen dim;
byddi'n edrych amdana i, ond bydda i wedi mynd.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity