Yn ôl

1 Cronicl

Llyfrau
Hafan

Hen Destament

  • Genesis
  • Exodus
  • Lefiticus
  • Numeri
  • Deuteronomium
  • Josua
  • Barnwyr
  • Ruth
  • 1 Samuel
  • 2 Samuel
  • 1 Brenhinoedd
  • 2 Brenhinoedd
  • 1 Cronicl
  • 2 Cronicl
  • Esra
  • Nehemeia
  • Esther
  • Job
  • Salmau
  • Diarhebion
  • Pregethwr
  • Caniad Solomon
  • Eseia
  • Jeremeia
  • Galarnad
  • Eseciel
  • Daniel
  • Hosea
  • Joel
  • Amos
  • Obadeia
  • Jona
  • Micha
  • Nahum
  • Habacuc
  • Seffaneia
  • Haggai
  • Sechareia
  • Malachi

Testament Newydd

  • Mathew
  • Marc
  • Luc
  • Ioan
  • Actau
  • Rhufeiniaid
  • 1 Corinthiaid
  • 2 Corinthiaid
  • Galatiaid
  • Effesiaid
  • Philipiaid
  • Colosiaid
  • 1 Thesaloniaid
  • 2 Thesaloniaid
  • 1 Timotheus
  • 2 Timotheus
  • Titus
  • Philemon
  • Hebreaid
  • Iago
  • 1 Pedr
  • 2 Pedr
  • 1 Ioan
  • 2 Ioan
  • 3 Ioan
  • Jwdas
  • Datguddiad

1 CRONICL 10

Saul yn lladd ei hun

(1 Samuel 31:1-13)

1 Dyma'r Philistiaid yn dod i ryfela yn erbyn Israel. Roedd rhaid i filwyr Israel ffoi, a syrthiodd llawer ohonyn nhw'n farw ar fynydd Gilboa. 2 Roedd y Philistiaid reit tu ôl i Saul a'i feibion, a dyma nhw'n llwyddo i ladd ei feibion, Jonathan, Abinadab a Malci-shwa. 3 Roedd y frwydr yn ffyrnig o gwmpas Saul, a dyma'r bwasaethwyr yn ei daro, a'i anafu'n ddrwg.

4 Dyma Saul yn dweud wrth y gwas oedd yn cario'i arfau, “Cymer dy gleddyf a thrywana fi. Paid gadael i'r paganiaid yma ddod a'm poenydio i.” Ond roedd gan y gwas ofn gwneud hynny. Felly dyma Saul yn cymryd y cleddyf ac yn syrthio arno. 5 Pan welodd y gwas fod Saul wedi marw, dyma fe hefyd yn syrthio ar ei gleddyf a marw. 6 Felly cafodd Saul a tri o'i feibion, a'i deulu i gyd eu lladd gyda'i gilydd.

7 Dyma bobl Israel oedd yr ochr draw i'r dyffryn yn clywed fod y milwyr wedi ffoi, a bod Saul a'i feibion wedi cael eu lladd. Felly dyma nhw'n gadael eu trefi a ffoi. A dyma'r Philistiaid yn dod i fyw ynddyn nhw.

8 Y diwrnod ar ôl y frwydr dyma'r Philistiaid yn dod i ddwyn oddi ar y cyrff meirw. A dyma nhw'n dod o hyd i Saul a'i feibion yn gorwedd yn farw ar fynydd Gilboa. 9 Dyma nhw'n cymryd ei arfau oddi arno, torri ei ben i ffwrdd, ac anfon negeswyr drwy wlad y Philistiaid i gyhoeddi'r newyddion da yn nhemlau eu duwiau ac wrth y bobl. 10 Wedyn dyma nhw'n rhoi arfau Saul yn nheml eu duwiau, a hongian ei ben yn nheml y duw Dagon.

11 Pan glywodd pobl Jabesh yn Gilead am bopeth roedd y Philistiaid wedi'i wneud i Saul, 12 dyma'r milwyr yn mynd allan i nôl cyrff Saul a'i feibion a mynd â nhw i Jabesh. Dyma nhw'n cymryd yr esgyrn a'u claddu o dan y goeden dderwen yn Jabesh, ac ymprydio am wythnos.

13 Buodd Saul farw am ei fod wedi bod yn anffyddlon ac anufudd i'r ARGLWYDD. Roedd e hyd yn oed wedi troi at ddewiniaeth, 14 yn lle gofyn am arweiniad yr ARGLWYDD. Felly dyma'r ARGLWYDD yn ei ladd ac yn rhoi ei frenhiniaeth i Dafydd fab Jesse.

I'r pen

Safle Llawn
beibl.net

Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2025, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.

Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity